Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C: Gorffennaf 20, 2005 TELESGÔP I DDATBLUGU FFERMIO Mae cwmni cynhyrchu Telesgôp wedi cael cytundeb gan S4C i ddatblygu gwasanaeth rhyngweithiol sy'n cyd-rhedeg â chyfres a bwletinau Ffermio. Bydd y gwasanaeth newydd yn defnyddio technolegau newydd, gan gynnwys y rhyngrwyd, band llydan a gwasanaethau botwm coch, er mwyn rhannu'r newyddion diweddaraf am fyd amaeth a chefn gwlad gyda gwylwyr a defnyddwyr. "Bydd y cynllun arloesol hwn yn ein galluogi ni i wasanaethu'r gymuned wledig a'r rheiny sydd â diddordeb yng nghefn gwlad yn fwy effeithiol," medd Elin Rhys, Rheolwr Gyfarwyddwr Telesgôp. "Ail lansiwyd Ffermio eleni gan greu llwyfan i ni drin a thrafod pynciau gwledig yn fwy manwl - o fwyd a thrafnidiaeth i iechyd a chartrefi yng nghefn gwlad - gyda Bwletin Ffermio ddwywaith yr wythnos sy'n darparu'r newyddion diweddaraf i amaethwyr". "Bydd y cynllun yn cynnig cyfle i ni adeiladu ar frand Ffermio a datblygu gwasanaeth eang, cynhwysfawr sydd ar gael ar sawl llwyfan." Ychwanega Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C a darpar Brif Weithredwr y Sianel, "Mae'r prosiect cyffrous yma i ymestyn ein darpariaeth wledig yn adlewyrchu pwysigrwydd y gymuned wledig i S4C a lle'r gymuned honno o fewn Strategaeth Rhaglenni'r Sianel." Y bwriad yw y bydd y gwasanaeth newydd mewn lle erbyn Medi 2006, ond y bydd gwasanaeth arbrofol ar y we yn cael ei lansio cyn hynny. Bydd cyhoeddiadau pellach yn yr hydref. Gorffennaf 19, 2005 CYFLE I ENNILL TREILAR! Lansiwyd cystadleuaeth Ffermio 2005 yn ystod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Eleni, mae'r gyfres wledig a gynhyrchir gan Teledu Telesg�p, yn cynnig tair gwobr i wylwyr eu hennill diolch i Ifor Williams Trailers Cyf. o Gorwen. Y wobr gyntaf fydd Trelar TA510; yr ail fydd Trelar Ceffylau HB505 'Classic' a'r drydedd fydd Trelar P7E. Bob nos Lun ar Ffermio rhwng mis Medi a mis Tachwedd bydd y criw'n dangos llun o berson neu anifail. Dangosir cyfanswm o wyth llun, gyda nam ar bob un. Bydd yn rhaid i wylwyr ddyfalu enw'r person neu'r anifail sy'n cael ei ddangos. Meddai Iola Wyn, un o gyflwynwyr Ffermio, "Mae'r gystadleuaeth eleni'n addo bod yn dipyn o hwyl ac yn siwr o achosi penbleth i'n gwylwyr yn y ffordd orau posib! Rydyn ni wedi cael tipyn o sbort yn trafod y lluniau ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld sut si�p fydd ar yr atebion!" Ychwanega Lowri Gwilym, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C, "Mae'r ystod eang o raglenni gwledig a ddarlledir ar S4C, yn eu plith Ffermio, yn rhan bwysig o'n harlwy ar hyd y flwyddyn. Mae'r cytundeb newydd i ddatblygu gwasanaeth rhyngweithiol i gyd-fynd � chyfres a bwletinau Ffermio, yn cadarnhau ein hymrwymiad i amaethwyr a'r rhai sydd � diddordeb mewn bywyd cefn gwlad." Meddai Iorwerth Roberts ar ran cwmni Ifor Williams Cyf, "Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi cystadleuaeth flynyddol Ffermio, cyfres sy'n parhau i gynnig llwyfan gwerthfawr i drafod materion amaeth a gwledig. Mae cynnig y trelars fel gwobrau'n rhoi cyfle i ninnau hefyd ddiolch i ffermwyr Cymru am eu cwsmeriaeth." Bydd y gystadleuaeth yn dechrau fis Medi pan fydd Ffermio yn dychwelyd i S4C ar �l hoe dros yr haf. Rhaid gwylio'r gyfres er mwyn cael cyfle i ennill. Bydd Ffermio'n dychwelyd i S4C nos Lun, 12 Medi, 8.25pm, S4C Darlledir Bwletin Ffermio ar S4C digidol drwy gydol y flwyddyn am 12.20pm bob dydd Mawrth a dydd Gwener. Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 029 20741451