S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cysylltu â Ni

Sut i Gwyno i S4C?

Mae'r ddogfen hon yn egluro sut mae gwneud cwyn i S4C, gan gynnwys cwyn am gynnwys sydd wedi ei gyhoeddi gan S4C ar unrhyw lwyfan, a chwynion ynghylch unrhyw fater arall (megis cydymffurfiad S4C â Safonau'r Gymraeg).

Cwynion am Gynnwys S4C

Mae S4C yn cyhoeddi gwahanol fathau o gynnwys ar draws amryw o lwyfannau – sy'n cynnwys y rhaglenni a ddarlledir ar ein gwasanaeth llinol, ar wasanaethau ar-alw, negeseuon gan S4C ar gyfryngau cymdeithasol, a'r hyn a gyhoeddir gan wasanaeth newyddion S4C.

Bydd unrhyw gwynion am gynnwys yn cael eu hystyried gan S4C yn unol â'r drefn gwynion a nodir isod o dan 'Cwynion am Gynnwys S4C'. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle nad yw hi'n ymarferol i ddilyn y drefn hon, bydd gan S4C yr hawl i amrywio'r drefn. Os digwydd hynny, bydd S4C yn rhoi gwybod i'r achwynwr, gan nodi'r rheswm dros wneud.

Mewn rhai achosion, gellir hefyd cyflwyno cwynion i reoleiddwyr penodol. Mae S4C yn annog achwynwyr i gysylltu gydag S4C i gyflwyno'u cwynion. Os ydych yn cysylltu ag S4C yn gyntaf, nid yw hyn yn effeithio ar eich hawl i gyfeirio'ch cwyn at reoleiddwyr perthnasol ar unrhyw bryd.

Ofcom

Bwrdd S4C sydd â'r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaeth teledu llinol S4C a sicrhau fod cynnwys y sianel yn cydymffurfio â gofynion perthnasol gan gynnwys Cod Darlledu Ofcom. Mae'r Cod ar gael ar safle gwe Ofcom, https://www.ofcom.org.uk/cymru/tv-radio-and-on-demand/broadcast-codes/broadcast-code.

Yn ogystal â chyflwyno cwyn i S4C, mae modd hefyd i achwynwyr gyflwyno cwynion parthed cydymffurfiaeth rhaglenni S4C a ddarlledir ar y gwasanaeth teledu llinol ar ba bynnag lwyfan â chodau priodol Ofcom, at Ofcom yn uniongyrchol: Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA (www.ofcom.org.uk).

Bwrdd S4C

Mae'n ofynnol i wasanaethau rhaglenni ar-alw S4C gydymffurfio â'r rheolau golygyddol statudol perthnasol. Mae'r rheolau golygyddol wedi eu nodi ar safle gwe Ofcom, https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0029/229358/ODPS-Rules-and-Guidance.pdf. Bwrdd S4C sy'n rheoleiddio'r gwasanaethau ar-alw a dylech gyfeirio unrhyw gwyn at S4C yn unol â'r drefn gwynion a nodir isod o dan 'Cwynion am Gynnwys S4C'.

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu

O ran cynnwys hysbysebion a ddarlledir ar S4C neu wasanaeth ar-alw S4C, yn ogystal â chyflwyno cwyn i S4C, gallwch gwyno at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (Advertising Standards Authority, yr "ASA"), Mid City Place, 71 High Holborn, Llundain WC1V 6QT (www.asa.org.uk).

Cwynion Eraill

Bydd unrhyw gwynion nad ydynt yn ymwneud â chynnwys S4C – gan gynnwys cwynion yn ymwneud â chydymffurfiad neu ddiffyg cydymffurfiad S4C mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg – yn dilyn y drefn ar gyfer 'Cwynion Eraill' fel y nodir isod.

.

Hyfforddiant Staff

Bydd staff perthnasol S4C yn derbyn hyfforddiant priodol (ar gychwyn swydd gydag S4C ac yn achlysurol wedi hynny) er mwyn delio ag unrhyw gwynion y bydd S4C yn eu derbyn mewn modd effeithiol ac yn unol â'r polisi hwn.

Sut i wneud cwyn?

Mae modd i unrhyw un wneud cwyn am S4C trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr. Mae modd gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol:

  • Cwyno trwy wefan S4C: danfonwch gwyn
  • Ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael 7 niwrnod yr wythnos rhwng 09:00 a 22:00 o'r gloch. Cynigir gwasanaeth peiriant ateb y tu allan i'r oriau hyn a phan fydd y llinellau'n brysur;
  • Ysgrifennu at: Cwynion S4C, Uned 1, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1TH

Mae angen i'r Wifren dderbyn unrhyw gwyn am gynnwys o fewn 20 diwrnod i'r darllediad, neu 20 diwrnod o'r dyddiad olaf pryd y mae'r cynnwys ar gael yn gyhoeddus ar lwyfan a reolir gan S4C. Ni fydd modd i S4C ystyried cwyn yn hwyrach na hyn heblaw bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli, neu fod yna reswm dilys am yr oedi. Mater i swyddogion S4C fydd penderfynu, gan ystyried yr amgylchiadau, i dderbyn neu wrthod ystyried cwyn a wneir yn hwyr.

Ar gyfer unrhyw gwynion eraill, disgwylir i'r Wifren dderbyn y gwyn o fewn 20 diwrnod i'r amgylchiad neu'r diffyg y gwneir y cwyn yn ei gylch.

Wrth wneud cwyn, mae angen darparu'r manylion y gofynnir amdanynt ar y ffurflen gwynion (sydd ar gael ar safle gwe S4C: https://www.s4c.cymru/cy/cysylltu--ni/page/17087/gwneud-cyn/). Nid yw S4C yn ystyried cwynion dienw. Yn ogystal, mae angen i'r cwynwr ddarparu manylion cyswllt llawn.

Mae modd i gwynwyr ofyn am gadw eu henw a manylion cyswllt yn gyfrinachol ond mae'n rhaid gofyn i wneud hyn ar y dechrau pan mae'r gwyn yn cael ei gwneud. Does dim modd cadw manylion cwynwr yn gyfrinachol mewn achos o gwyn o degwch neu breifatrwydd lle y bydd rhaid trafod manylion y gwyn gyda'r cwmni cynhyrchu neu (yn achos rhaglenni a gynhyrchir gan BBC Cymru) y BBC.

Mae disgwyl i bawb sy'n ymwneud â chwyn drin ei gilydd gyda pharch. Os bydd cwynwr yn defnyddio iaith anaddas, anweddus neu ymosodol, mae'n bosib y byddwn yn gofyn i'r gwyn gael ei haralleirio cyn y byddwn ni'n ei hystyried. Os na fydd y cwynwr yn fodlon gwneud hyn, fe allwn ni wrthod delio â'r gwyn.

Y Broses Gwynion

Cwynion am Gynnwys S4C

Cam 1: Ar ôl derbyn cwyn, bydd y S4C yn cydnabod derbyn y gwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.

Yn arferol, byddwn yn anelu i ymateb i'r gwyn o fewn 15 diwrnod gwaith.

Ond lle mae'r gwyn yn fwy cymhleth, lle mae angen mewnbwn arbenigol neu lle mae angen cysylltu â thrydydd parti (fel cwmni cynhyrchu neu BBC Cymru), byddwn yn anelu i ateb y gwyn o fewn 50 diwrnod gwaith.

Oherwydd eu natur, mi fydd cwynion am degwch neu breifatrwydd yn debygol o fod yn fwy cymhleth ac angen mwy o amser i'w hateb.

Cam 2: Mewn achosion lle nad yw'r cwynwyr yn cytuno â'r ymateb o dan Cam 1, mae modd gofyn i Brif Swyddog Cynnwys S4C i ystyried y gwyn. Rhaid gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr ymateb o dan Cam 1.

Bydd angen i'r cwynwr osod allan yn glir ac yn gryno mewn dogfen ysgrifenedig pam nad yw'n fodlon gyda'r ymateb gwreiddiol. Dylai'r ddogfen osod allan unrhyw bwyntiau sydd wedi eu cynnwys yn yr ateb gwreiddiol sydd angen eu hail ystyried.

Yn arferol, bydd y Prif Swyddog Cynnwys yn anelu i ymateb o fewn 15 diwrnod gwaith.

Cam 3: Mewn achosion difrifol lle nad yw'r cwynwr yn cytuno ag ymateb y Prif Swyddog Cynnwys, mae modd gwneud apêl i Brif Weithredwr S4C. Rhaid gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr ymateb y Prif Swyddog Cynnwys.

Ni fydd angen i'r Prif Weithredwr ystyried pob apêl y bydd yn ei dderbyn a mater i'r Prif Weithredwr fydd ystyried a oes rheswm digonol i ystyried cais am apêl cyn gwneud penderfyniad yn derfynol.

Cam 4: Mewn achosion lle mae'r gwyn yn codi mater cydymffurfiaeth, gellid gofyn i Banel Cwynion y Bwrdd ystyried ymhellach. Rhaid gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr ymateb y Prif Weithredwr.

Bydd Ysgrifennydd y Bwrdd yn cydnabod y ddogfen apêl o fewn 5 diwrnod gwaith.

Dim ond materion cydymffurfiaeth neu reoleiddiol bydd y Panel Cwynion yn ystyried, ac nid materion golygyddol.

Cwynion Eraill

Cam 1: Ar ôl derbyn cwyn, bydd S4C yn cydnabod derbyn y gwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.

Yn arferol, byddwn yn anelu i ymateb i'r gwyn o fewn 15 diwrnod gwaith. Lle mae'r gwyn yn fwy cymhleth byddwn yn anelu i ateb y gwyn o fewn 50 diwrnod gwaith.

Cam 2: Mewn achosion lle nad yw'r cwynwyr yn cytuno â'r ymateb o dan Cam 1, mae modd gofyn i Brif Weithredwr S4C i ystyried y gwyn. Rhaid gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr ymateb o dan Cam 1.

Bydd angen i'r cwynwr osod allan yn glir ac yn gryno mewn dogfen ysgrifenedig pam nad yw'n fodlon gyda'r ymateb gwreiddiol. Dylai'r ddogfen osod allan unrhyw bwyntiau sydd wedi eu cynnwys yn yr ateb gwreiddiol sydd angen eu hail ystyried.

Yn arferol, bydd y Prif Weithredwr yn anelu i ymateb o fewn 15 diwrnod gwaith.

Cam 3: Mewn achosion difrifol lle nad yw'r cwynwr yn cytuno ag ymateb swyddogion S4C, mae modd gwneud apêl i Banel Cwynion y Bwrdd. Rhaid gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr ymateb y Prif Weithredwr.

Bydd Ysgrifennydd y Bwrdd yn cydnabod y ddogfen apêl o fewn 5 diwrnod gwaith.

Mae angen i'r cwynwr osod allan yn glir ac yn gryno mewn dogfen ysgrifenedig pam nad yw'n fodlon gydag ymateb swyddogion S4C.Dylai'r ddogfen osod allan unrhyw bwyntiau sydd wedi eu cynnwys yn ateb y swyddogion sydd angen eu hail ystyried. Ni ddylai'r Panel ystyried unrhyw bwyntiau newydd sydd heb eu cyflwyno o'r blaen, heblaw lle byddai gwrthod gwneud hynny'n annheg.

Ni fydd angen i'r Panel ystyried pob apêl y bydd yn ei dderbyn a mater i'r Panel fydd ystyried a oes rheswm digonol i ystyried cais am apêl cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Canlyniad cynnal apêl

Lle mae'r Panel yn cynnal apêl gall:

  • Sicrhau fod S4C yn ymddiheuro i'r cwynwr (lle'n briodol, er enghraifft mewn achos o ddiffyg preifatrwydd neu driniaeth annheg);
  • Rhoi gorchymyn i swyddogion S4C i weithredu camau i sicrhau na all y cam neu ddiffyg cydymffurfiaeth ddigwydd eto;
  • Cyhoeddi ei benderfyniad, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau i'r Swyddogion, ar Safle Gwe S4C.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?