
23 Medi 2026
Bydd y cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens yn cyflwyno cyfres newydd ar S4C fydd yn cynnig y cyfle i unigolion drawsnewid eu bywydau.
20 Medi 2026
Bydd S4C yn darlledu Chwedl Jan Morris nos Sul am 20.00, cyfres ddwy ran arbennig sy'n archwilio bywyd, gwaith a gwaddol ffigwr unigryw trwy lygaid ei mab ieuengaf, y prifardd a'r awdur Twm Morys.
10 Medi 2026
Mae Rhun ap Iorwerth wedi siarad yn agored am ei ddiweddar fam mewn rhaglen ddogfen newydd.
10 Medi 2026
Bydd S4C yn parhau i ddarlledu gemau rhyngwladol tîm dynion Cymru, gyda phob un o chwe gêm Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA yn yr hydref ar gael i wylwyr ledled Cymru.
8 Medi 2026
Mae Cronfa Twf Masnachol a Chronfa Cynnwys Masnachol S4C wedi ariannu dros £2 filiwn mewn i fusnesau a chynyrchiadau ers eu lansio ym mis Hydref 2023, gan gefnogi arloesedd, creu cynnwys a chyfleoedd twf rhyngwladol.
9 Medi 2026
Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r wyth o athrawon newydd eu cymhwyso - a’r pum ysgol ledled Cymru lle maent yn dysgu - fydd yn destun y gyfres newydd pry-ar-y-wal Athrawon.
8 Medi 2026
Mae camerâu wedi cael mynediad prin i wasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd ar gyfer cyfres ddogfen newydd ar S4C sy’n archwilio’r pwysau cynyddol ar wasanaethau tai yng Nghymru.
3 Medi 2026
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Catrin Cooper wedi ei phenodi yn Gomisiynydd Ffilm a Dafydd Llewelyn yn Gomisiynydd Drama newydd S4C.
2 Medi 2026
Mae S4C wedi derbyn cyfanswm o 25 o enwebiadau ar draws ystod o genres amrywiol yng ngwobrau BAFTA Cymru 2026, gyda STAD (Cwmni Da) a Y Golau: Dŵr (Triongl) ill dau wedi eu henwebu yng nghategori Drama Deledu.
19 Awst 2026
Mae S4C wedi rhyddhau delweddau cyntaf ail gyfres y ddrama boblogaidd Cleddau, a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C, BBC iPlayer a S4C Clic ym mis Hydref 2026. Mi fydd chwe phennod yn yr ail gyfres gyda DI Ffion Lloyd (Elen Rhys) a DS Rick Sheldon (Richard Harrington) yn dychwelyd wrth iddynt hela llofrudd sy'n defnyddio ap dêtio i stelcian ei ddioddefwyr.