Y Wasg

Prosiect Cymru DNA Wales am fwrw golwg cwbl o’r newydd ar hanes Cymru

24/09/2014

Ar amser pan fo hunaniaeth genedlaethol mor amlwg ar agenda holl genhedloedd Prydain ac Iwerddon, bydd prosiect newydd, arloesol yn cael ei lansio heddiw fydd yn diffinio beth yw bod yn Gymreig - Cymru DNA Wales.

Am y tro cyntaf, bydd DNA etifeddol mewn modd systematig yn llunio proffil genom Cymru.

Mae pob Cymro a Chymraes yn ddisgynnydd i fewnfudwr, o'r arloeswyr cynhanesyddol a welodd am y tro cyntaf y cymoedd a'r mynyddoedd yn ymddangos o’r oes iâ diwethaf 11,000 mlynedd yn ôl i ddyfodiaid mwy modern. Mae pob Cymro a Chymraes yn cario DNA etifeddol yn eu cyrff, all ateb nifer o gwestiynau sydd eto i’w hateb er mwyn datgelu hanes cudd Cymru am y tro cyntaf.

• Ar draws y milenia cyn hanes, a dros 2,000 mlynedd o hanes sydd wedi ei gofnodi, o ble y daeth y bobl hynny, a ddatblygodd yn y pen draw yn Gymry?

• Pwy oedd y ffermwyr cyntaf ar y bryniau a’r cymoedd?

• Pa ddylanwad gafodd y Rhufeiniaid a'u lleng?

• Neu'r Llychlynwyr?

• A allwn gael hyd i linell waed brenhinoedd Cymru'r Oesoedd Tywyll?

• A beth ddigwyddodd i'r Tuduriaid?

Bydd y cwestiynau hyn a llawer o gwestiynau difyr eraill yn cael eu hateb, wrth i enom Cymru ymddangos a hanes newydd yn cael ei ddarganfod.

Mae'r prosiect newydd aml-gyfrwng uchelgeisiol o’r enw Cymru DNA Wales yn ffrwyth cydweithrediad rhwng y partneriaid, S4C, The Western Mail a'r The Daily Post, Green Bay Media a'r cwmni ymchwil ScotlandsDNA.

Ffrwyth y prosiect dwy neu dair blynedd fydd cyfres swmpus o raglenni ar S4C, fydd yn cael ei chynhyrchu gan y cwmni cynhyrchu uchel ei barch Green Bay Media. Canlyniad arall y gwaith fydd storfa o wybodaeth fydd yn ddeunydd addysgol ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Nod y prosiect yw cynnig ffurf newydd o gyfleu hanes ar y teledu, trwy gyfrwng geneteg a thrwy arolwg eang o DNA Cymru, a hynny law yn llaw ag astudiaethau academaidd.

Syniad Prif Weithredwr S4C, Ian Jones yw menter Cymru DNA Wales, aeth i drafod ei syniad gyda chwmni ymchwil llwyddiannus yn Yr Alban a oedd yn gyfrifol am ScotlandsDNA. Trwy gyfuno dadansoddi hanesyddol a gwybodaeth geneteg wrth brofi DNA eu cyndeidiau, cawsom olwg o’r newydd ar hanes Yr Alban.

Bydd The Western Mail a The Daily Post yn darparu cynnwys golygyddol yn eu papurau newydd a gwefannau ar-lein.

Bydd y ddau bapur newydd hefyd yn cyhoeddi’r ffurflenni y gall y rheiny sy'n gwirfoddoli eu defnyddio i brynu Pecyn Poer.

Gall bobl sydd un ai’n byw yng Nghymru, yn ystyried eu hunain fel Cymry neu sydd â llinach Gymreig brynu Pecyn Poer er mwyn darparu sampl o'u poer i'w ddadansoddi ar gyfer eu DNA.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:

“Mae S4C yn falch o fod yn un o’r prif bartneriaid yn y prosiect yma fydd yn torri cwys newydd ac yn llythrennol yn ail ysgrifennu hanes Cymru a gwledydd Prydain. Mae'r prosiect yn rhan hanfodol o'n strategaeth aml blatfform a thrwy gydweithio gyda nifer o sefydliadau deinamig eraill, rydym yn helpu i greu etifeddiaeth a fydd yn parhau tra bydd ein cenedl a’i diwylliant yn ffynnu."

Dywedodd Alistair Moffat o ScotlandsDNA:

“Mae ScotlandsDNA yn brosiect arloesol a gafodd ei lansio ar ddiwrnod nawddsant Yr Alban, St Andrew yn 2011. Trwy ddadansoddi DNA cyndeidiol a modern yr Albanwyr, roedd modd ddechrau'r broses o ysgrifennu hanes ein cenedl o’r newydd. Yn lle'r un hen wynebau - y brenhinoedd, breninesau, y seintiau a'r ffigyrau amlwg eraill - fe wnaethom ni ddefnyddio’r canlyniadau i ysgrifennu hanes y bobl. Fe wnaethom ateb yr hen hen gwestiwn, ‘Pwy yw'r Albanwyr' drwy olrhain trywydd ein cyndeidiau i'r pwynt mwyaf gogledd-orllewin ym mhenrhyn Ewrop ac rydym nawr yn mapio ble y gwnaethon nhw ymgartrefu. Mae hyn yn dangos ein bod yn genedl amrywiol, a bod nifer o'n harwyr, brenhinoedd a breninesau yn perthyn i bobl gyffredin. Nid oes llawer o astudiaethau o Gymru wedi cael eu cynnal, a thrwy lansio Cymru DNA Wales, rydym yn gobeithio ysgrifennu hanes Cymru o'r newydd, hanes sy'n gynhwysol, deinamig, ac yn wahanol. Gallwn gael hyd i hanes y Cymry y tu mewn iddyn nhw - yn eu DNA. Ac mae'r canlyniadau cynnar yn rhai difyr iawn.”

Meddai Prif Olygydd Media Wales, Alan Edmunds:

"Fel gwasanaethau cyfryngau, rydym ni yn y Western Mail a'r Daily Post yn treulio pob diwrnod yn mynd o dan groen Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at chwarae rhan allweddol mewn prosiect fydd yn edrych ar Gymru mewn ffordd na wnaethpwyd erioed o’r blaen. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi anelu at fwrw goleuni newydd ar hanes pobl Cymru drwy ein cyfres o lyfrau Welsh History Month, a'n sesiynau trafod yng Ngŵyl y Gelli a bydd y prosiect yma yn mynd a'n taith hanesyddol i dir newydd."

Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Green Bay Media, John Geraint:

“Mae Green Bay wedi cael y fraint o gynhyrchu nifer o gyfresi hanes sylweddol o fewn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan gynnwys cyfres hanes 'swyddogol' BBC am y genedl, ‘The Story of Wales’. Ond mae'r prosiect hwn yn argoeli i fod yr un mwyaf arloesol ohonynt i gyd - yn y modd y bydd yn cyfuno hanes a gwyddoniaeth. Trwy gyfraniad miloedd o bobl yng Nghymru, mae ganddo’r potensial i gynnig ateb awdurdodol i'r cwestiwn ‘Pwy yw'r Cymry?"

DIWEDD

NODYN I OLYGYDDION

Yn ystod y lansiad, bydd partneriaid Cymru DNA Wales yn datgelu pwy yw rhai o’r bobl amlwg sydd wedi cytuno i ddarparu sampl o’u poer ar gyfer y Pecyn Poer, a fydd yn cael ei ddadansoddi am eu DNA.

Am ragor o wybodaeth, neu i fynychu lansiad Cymru DNA Wales yn adeilad y Pierhead, ym Mae Caerdydd (Dydd Mercher, 24 Medi am 1830) cysylltwch gydag Owain Pennar neu Glesni Jones yn nhîm y wasg yn S4C ar 02920 741422

Mwy o newyddion

Hafan y wasg