Y Wasg

Cyhoeddi'r rhai fydd yn camu nôl i'r Llys Tuduraidd

16/10/2014

Nos Sadwrn, 1 Tachwedd bydd modd gweld 17 unigolyn dewr yn teithio yn ôl i Gymru yn ystod 1525 mewn cyfres hanes byw newydd ar S4C, Y Llys.

Bydd y criw yn byw, gwisgo, hamddena a gweithio fel pobl yng nghyfnod oes y Tuduriaid mewn Llys yn Nhre-tŵr ger Aberhonddu yng ngodre Bannau Brycheiniog.

Mae cyfres Y Llys yn dilyn cyfres lwyddiannus y llynedd, Y Plas gan gwmni Boom Pictures Cymru ar gyfer S4C, oedd yn canolbwyntio ar fywyd mewn plasty yn Llanerchaeron yn 1910.

Bydd modd dilyn hynt a helynt y criw mewn yn ystod Tachwedd a Rhagfyr wrth iddynt ymdopi â bywyd mewn Llys Tuduraidd yn 1525. Bydd bywyd yn heriol iddynt, wrth i'r 17 ddygymod gydag amodau sylfaenol tu hwnt; ni fydd trydan, gwers ganolog na thechnoleg fodern yno.

Heddiw gall S4C ddatgelu pwy yw'r 17 fydd yn ymddangos ar gyfres Y Llys:

Teulu'r Griffith o Sarn, Pen Llŷn fydd yn camu nôl i ag ymgartrefu yn y Llys; Michael Griffith, fydd meistr y tŷ a Heather Griffith, fydd y feistres, eu plant, Helena sy'n 12 oed, Mathew sy'n 10 oed, a gefeilliaid Esme ac Anna sy'n naw oed fydd plant Y Llys.

Gwion Thorpe o Gaerdydd, ond yn wreiddiol o Gaerfyrddin fydd yn cadw trefn ar bawb wrth iddo gamu i esgidiau trefnus stiward Y Llys; Dawn Worsley, hefyd o Ben Llŷn fydd morwyn y feistres.

Yn ymuno â nhw fel aelodau o'r gweithlu, fydd gweision y lifrai, Geraint Siddal o Niwbwrch, Sir Fôn ac Iwan Morgan o Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Bydd mab Iwan, Peredur Morgan, 12 oed hefyd yn ymuno yn Y Llys fel prentis o was.

Y porthor fydd Dr Glyn Jones, o Gas-gwent, a’r gweision cegin fydd Morgan Williams o Garndolbenmaen, Rhian Davies o Lansilin, Mared Llywelyn Williams o Forfa Nefyn a Loti Flowers o Greunant ger Castell-nedd. Offeiriad y gyfres fydd Rhidian Jones, sy’n dod o Aberaeron yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Whitney, Rhydychen.

Mae S4C eisoes wedi cyhoeddi enw'r cogydd yn Y Llys, sef Llŷr Serw ap Glyn, sy'n byw ym Methesda, ond yn wreiddiol o Badog ger Betws y Coed. Dewiswyd Llŷr wedi ymgyrch yn y cyfryngau i chwilio am gogydd ar gyfer y gyfres.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C:

"Dyma gyfle i ddysgu am gyfnod allweddol yn hanes Cymru a Lloegr trwy brofiadau Cymry yn treulio cyfnod mewn llys, gyda’r amodau byw oedd ganddynt bum canrif yn ôl. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd mab Harri Tudur ar orsedd Lloegr ac yn arwain i’r deddfau a unodd Gymru a Lloegr yn 1536 a 1542. Dyma gyfnod sy’n cael ei astudio yn ein hysgolion hefyd, rwy’n cofio astudio’r union gyfnod fy hun, a dyma gyfle i gyfoethogi’r dysgu hwnnw i bawb.”

Meddai Alison John, cynhyrchydd y gyfres:

"Dychmygwch fyw heb drydan, heb ddŵr tap, heb sôn am dechnoleg fodern yr ydym mor ddibynnol arni heddiw. Byddai'n amhosib i'r rhan fwya' ohonom ni. Mae pob un o’r criw yma sydd wedi dewis gadael cysuron eu cartrefi er mwyn profi a goroesi bywyd bob dydd fel roedd e yn 1525. Mae'r gwaith paratoi wedi bod yn ddifyr a dwi'n ffyddiog y bydd ffrwyth llafur tîm o arbenigwyr ar y cyfnod a'r tîm cynhyrchu yn rhoi sylfaen gadarn i'w profiad. Rydyn ni'n edrych mlaen nawr at weld profiadau’r 17 oedd yn ysu i fod yn Llys yn cyrraedd y sgrin.”

Noddwyd ‘Y Llys’ gan Wasanaeth Twristiaeth Cyngor Sir Powys

Diwedd

Nodiadau i'r golygydd

• Cynhyrchir y gyfres gan Boom Cymru

• Mae Llys Tre-tŵr yn eiddo i wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, CADW

• Bydd isdeitlau Saesneg ar gael trwy gydol y gyfres

• Mae S4C ar gael yng Nghymru ar: Sky 104; Freeview 4; Virgin TV 166; Freesat 104

• Mae S4C ar gael yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar: Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166

Mwy o newyddion

Hafan y wasg