Y Wasg

Sylfaenydd y Gestapo wedi hawlio darlun o Catrin o Ferain yn ei gasgliad Celf

17/01/2014

Ffion Hague sy'n datgelu'r stori ar S4C

Mae Amgueddfa Cymru wedi cadarnhau bod un o brif gadfridogion Hitler yn ystod y rhyfel a sylfaenydd y Gestapo, Hermann Wilhelm Göring, wedi bod yn berchen ar ddarlun clodwiw o un o fenywod mwyaf dylanwadol Cymru yn ystod oes y Tuduriaid– Catrin o Ferain.

Datgelir hanes rhyfeddol y darlun ar gyfres S4C, Mamwlad gyda Ffion Hague, nos Sul 19 Ionawr am 8.30pm. Trwy gydol y gyfres bydd Ffion Hague yn olrhain straeon difyr merched arloesol ein cenedl.

Wrth ffilmio'r gyfres chwe rhan bu Ffion Hague yn siarad gyda Helen Williams-Ellis, sy'n perthyn i Catrin trwy briodas ac sydd wrthi'n ysgrifennu cofiant am fywyd y foneddiges a aned yn ferch i Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville, teulu ystâd Berain ar gyrion pentref Llanefydd yn Nyffryn Clwyd oddeutu 1534.

Roedd Helen Williams-Ellis wedi clywed bod darlun Catrin o Ferain wedi bod yn rhan o gasgliad celf Göring ar un adeg. Aeth Ffion Hague a chriw cynhyrchu Tinopolis ar drywydd y stori gan gysylltu gydag Oliver Fairclough, Ceidwad Celf, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales i weld os fyddai modd cadarnhau'r stori.

Meddai Oliver Fairclough, "Prynodd yr Amgueddfa'r darlun o Catrin gan werthwr celf o Lundain ym 1957. Ymddangosodd y stori am Göring yn y wasg y tro cyntaf yn y 60au, ac er bod tystiolaeth bod y llun wedi ei werthu yn Amsterdam yn ystod y cyfnod pan oedd yr Almaen yn ymosod ar yr Iseldiroedd yn y 40au, a doedden ni methu bod yn siŵr beth ddigwyddodd i'r llun wedyn.

"Yn dilyn pryderon diweddar am y gwaith celf a gafodd eu hysbeilio yn ystod cyfnod y Natsïaid, a'r ffaith bod mwy o wybodaeth archif nawr ar gael ar-lein dyma benderfynu edrych ar y stori eto. Gallwn bellach gadarnhau bod y llun wedi ei brynu gan werthwr celf yn Amsterdam ar ran Göring yn ystod Tachwedd 1940, a'i fod wedi ei ddychwelyd i'r un gwerthwr o'r Iseldiroedd ym mis Rhagfyr 1945.

"Llwyddodd Göring i gasglu nifer anhygoel o weithiau celf - gyda rhywfaint o gyfreithlondeb i'r pryniannau fel yn yr achos hwn - ac mae'r lluniau roedd o unwaith yn berchen arnyn nhw bellach mewn amgueddfeydd ledled y byd. Ond er hynny, roedd yn dal yn rhyfeddol i ddarganfod fod eicon Cymreig yn eu plith."

Dywedir mai Adriaen Van Cronenburgh baentiodd y darlun ym 1568, a hynny tra'r oedd hi'n briod i Richard Clwch, ei hail ŵr o bedwar.

Mae stori'r darlun yn un ymhlith amryw o hanesion rhyfeddol am y ddynes a honnir i fod o linach frenhinol, Catrin o Ferain. Seiren, llofrudd, cysylltiadau â Shakespeare, Pabydd rhonc - i restru dim ond rhai o'r sïon sydd wedi cael eu sibrwd am Catrin am dros bum canrif, ond pa dystiolaeth hanesyddol sy'n bodoli i'w profi neu eu gwrthbrofi?

Ymunwch â Ffion Hague wrth iddi chwilio am y gwir am Catrin o Ferain ar Mamwlad gyda Ffion Hague, nos Sul 19 Ionawr am 8.30pm ar S4C. Isdeitlau Saesneg ar gael.

Mwy o newyddion

Hafan y wasg