Wynebau adnabyddus yn rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg.

Mewn cyfres arbennig cariad@iaith:love4language ar S4C rhwng 9 a 15 Gorffennaf bydd wyth o bobl adnabyddus yn treulio wythnos ddwys yn dysgu Cymraeg yng ngwersyll trawiadol Fforest, Cilgerran yn Sir Benfro. 

Allwn ni ddim datgelu ar hyn o bryd pwy fydd yr wyth. Bydd y camerâu’n eu dilyn wrth iddynt astudio Cymraeg am bedair awr bob dydd o dan arweiniad y cyflwynydd a’r tiwtor iaith Nia Parry a’r tiwtor iaith blaenllaw Ioan Talfryn. 

Fe fydd y gyfres, a ddarlledir dros wythnos gyda Gareth Roberts yn cyflwyno, yn dilyn y sêr mewn sioeau nosweithiol awr o hyd. 

Darllen Mwy am cariad@iaith