Neidio at y cynnwys

S4C
Close
Flash is required to view this video

Cerddoriaeth

Dawel Nos

Taith emosiynol i fyd y garol Dawel Nos

Yn y rhaglen Dawel Nos cawn fod yn rhan o daith emosiynol sy'n darganfod mwy am y cysylltiad uniongyrchol rhwng y garol adnabyddus a theulu'r newyddiadurwraig a darlledwraig Bethan Jones Parry.

Cyfansoddwyd y garol Dawel Nos yn y cyfnod yn dilyn rhyfeloedd Napoleon a oedd wedi difetha llawer o Ewrop. Roedd y cyfansoddwyr, Joseph Mohr, oedd yn gyfrifol am y geiriau, a Franz X. Gruber, wedi bod trwy'r profiad o fod yng nghanol erchylltra rhyfel a gweld ei ganlyniadau.

"Mae'n eironig fod carol sydd â chymaint o'i gwreiddiau mewn rhyfel yn cael ei hystyried heddiw yn alwad am heddwch trwy'r byd," meddai Bethan, sy'n dod o Eifionydd.

Mae wedi cael ei swyno gan y garol hon erioed, ond yn ddiweddar fe sylweddolodd fod cysylltiad rhwng y garol â'i theulu, trwy ddigwyddiad emosiynol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyna pam y mae hi a'i merch Catrin Siriol wedi penderfynu teithio i Wlad Belg ac Awstria i ddarganfod mwy am yr hyn ddigwyddodd i'w diweddar dad, Meirion Parry, un o Benygroes, Gwynedd yn wreiddiol, a hynny bell o gartref.

"Fe ddigwyddodd mewn pentref bach ar gyrion Brwsel, ac yn agos i faes y gad, ar Noswyl Nadolig 1944," esbonia Bethan. "Roedd catrawd Dad ar eu ffordd o draethau Normandi ac mi roedden nhw'n gwybod bod y frwydr yn yr Ardennes o'u blaenau nhw am fod yn erchyll.

"Ar y sgwâr yng nghanol y pentref bach mi wnaeth y milwyr o Gymru, a Dad yn eu canol nhw, ddechrau canu carolau ac mi wnaeth trigolion y pentre' ddod allan o'u cartrefi a'u cymeradwyo. Ar y diwedd, mi wnaeth pawb ganu Dawel Nos, ac mi roedd hi'n amlwg yn brofiad teimladwy i Dad a phawb oedd yno. Mi gafodd ei chanu yn Gymraeg, Ffrangeg, Fflemeg a Saesneg. Beth bynnag yr iaith, yr un oedd y wefr. Roedd y garol hudolus hon wedi uno pawb.

"Ar ôl darllen am y profiad hwn, roedd yn rhaid i mi gael gweld y pentref lle digwyddodd o. Felly dyma benderfynu mynd ar y daith hon i ddarganfod mwy, ac i sefyll yn y sgwâr lle gafodd fy nhad a nifer o Gymry eraill brofiad mor emosiynol ar eu ffordd i wynebu'r gelyn ac erchyllterau na allwn eu dychmygu.

"Dwi'n teimlo'n nerfus, ac yn ofnus wrth feddwl am yr hyn sydd o'n blaenau, ond mae Catrin a finnau yn teimlo y basa' Dad yn falch o'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales