O'r Galon: Byd Mawr y Dyn Bach

Manylion rhaglenni

Person bach gyda phersonoliaeth enfawr ydy James Lusted, ac mae o wedi cyflawni sawl camp anhygoel, er gwaetha'r ffaith mai dim ond 3 troedfedd 7 modfedd o daldra ydy o. Awn ar daith bersonol gyda James er mwyn canfod o ble y daw ei nerth, a'i benderfyniad, gan glywed ganddo fo a'i deulu sut y bu iddo oresgyn pob her a ddaeth i'w ran yn sgil ei gyflwr meddygol. Ond mae un her arbennig iawn yn ei wynebu yn ystod y rhaglen. Gwelwn James yn paratoi ar gyfer ei ran fawr fel corrach ym mhanto 'Eira Wen'. Dyma wireddu breuddwyd oes - a gwneud yn fawr o'i daldra!
Oes gennych chi farn am ein cynnwys?
Cysylltwch â ni!
chat Rhannwch eich sylwadau â ni
A-Y rhaglenni loading
close

Eich adborth

Carwn glywed wrth ein cynulleidfa.
Beth hoffech siarad amdano?