Separado!

Manylion rhaglenni

Mae'r seren bop Gymreig Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn ein tywys ar wibdaith dros sawl cyfandir i ddarganfod ewythr colledig ym Mhatagonia - y gitarydd mewn poncho, René Griffiths. Ym 1880, yn dilyn ras geffylau ddadleuol wnaeth arwain at farwolaeth amheus, rhwygwyd teulu Gruff Rhys pan ymunodd Dafydd Jones a'i deulu ifanc â'r fintai i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America. Ni fu cysylltiad rhwng y ddwy gangen deuluol am bron i ganrif, tan ddaeth René Griffiths i Gymru ym 1974 i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda'i ganeuon serch Hisbaenaidd. Dilyna'r cyfarwyddwr Dylan Goch daith Gruff Rhys trwy theatrau, clybiau nos a thai te Cymru, Brasil ac Andes yr Ariannin, wrth iddo ddarganfod hanes ei deulu, Cymry'r Wladfa, a'u hetifeddiaeth gerddorol. Darlledwyd y rhaglen gyntaf yn 2012.
  • Dod i ben heddiw
  • Darlledwyd ar 30 Gorffennaf 2015
  • Munud: 85
  • Ar gael yn y D.U. yn unig
  • Isdeitlau Saesneg ar gael
  • Gwefan Separado!
Oes gennych chi farn am ein cynnwys?
Cysylltwch â ni!
chat Rhannwch eich sylwadau â ni
A-Y rhaglenni loading
close

Eich adborth

Carwn glywed wrth ein cynulleidfa.
Beth hoffech siarad amdano?