S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Nia Davies Williams a Sian Owen

Mae Nia Davies Williams yn dod o Ben Llŷn ac yn astudio MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan ganolbwyntio ar ymdriniaeth o gerddoriaeth gyda chleifion sydd yn dioddef o ddementia.

Mi fydd Nia yn teithio i Unol Daleithiau America mis Mai yma i drafod ei ymchwil yn Detroit. Ynghyd ac ymddiddori mewn cyfansoddi a chwarae'r delyn mae Nia yn cynnal gwersi piano yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, Galeri Caernarfon.

Wedi hen arfer chwarae'r delyn a phiano mewn cyngherddau a phriodasau, mae Nia hefyd wedi gwneud cryn dipyn o ymddangosiadau gyda Brigyn. Ymysg ei pherfformiadau gyda'r ddau frawd o Eryri mae Gŵyl y Faenol, Sesiwn Fawr a hefyd gŵyl Green Man. Mi lwyddodd Nia i gyrraedd wyth olaf Cân i Gymru yn 2004 gyda'r gân 'Gadael' a chafodd ei pherfformio gyda Mirain Haf.

Ganed Sian Owen yn Llanuwchllyn ond fe'i magwyd yn Ynys Môn, ac mae'n gweithio fel cyfieithydd, awdur a golygydd ar ei liwt ei hun.

Ynghyd â chyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion yn 2009, Mân Esgyrn, mae Sian yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Alaw, ac yn gyn-enillydd Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta. Hi yw prif Dderwydd Gweinyddol Gorsedd y Beirdd Ynys Môn ar hyn o bryd. Er mai gradd Ffiseg sydd ganddi, mae'n mwynhau gweithio gyda geiriau ac mae hi newydd wneud PhD mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae Sian wedi ysgrifennu geiriau llawer o ganeuon i blant dros y blynyddoedd, yn enwedig ar gyfer Côr Ieuenctid Môn; bu'n cymryd rhan ym mhrosiect Make an Aria! gyda Music Theatre Wales ac yn ddiweddar bu'n gweithio gyda Tudur Morgan i gyfansoddi Y Fydlyn sy'n gân am un o draethau arbennig Ynys Môn, sydd ar CD diweddaraf Tudur. Dydi hi eroed wedi cystadlu yn Cân i Gymru o'r blaen.

Cain

Mae gan Nia Davies Williams a Sian Owen bartneriaeth go anghyffredin gan nad ydynt eto wedi cwrdd! Fe ddaeth y ddwy i gyd weithio wedi i Sian glywed fod Nia yn chwilio am eiriau ar gyfer cân i gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni. Fel mae'n digwydd, roedd gan Sian gân yn eistedd yn y drôr ers tro. Roedd hi wedi ysgrifennu'r geiriau yn wreiddiol fel rhan o nofel, ond yn sylweddoli hefyd y bydden nhw'n sefyll ar eu traed eu hunain fel cân. Maen nhw'n sôn am ferch ar y traeth mewn gwlad boeth yn gwylio pobl yn chwarae gwyddbwyll, ac yn cymharu'r gêm gyda bywyd. Yn y gân, sy'n cael ei chanu i rywun o'r enw Cain, mae'r ferch yn dweud nad yw bywyd byth yn ddu a gwyn syml fel y sgwariau ar fwrdd gwyddbwyll. Rhywle yn y canol y mae bywyd go iawn, ac yn y 'sgwariau llwydion' y mae hi'n gweld ei dyfodol. Fydd Cain yn dewis bod yno efo hi, neu a fydd ôl ei droed yn diflannu oddi ar y traeth gyda'r llanw? Roedd Nia yn hoff iawn o naws anghyffredin ac amwysedd y geiriau. Mi arhosodd y cwpled a ddaeth yn gytgan i'r gân yn ei chof yn syth, ac o'r fan yma y tyfodd yr alaw. Roedd Sian yn hapus iawn fod Nia wedi deall natur leddf y geiriau wrth gyfansoddi'r alaw a'i bod hi'n llifo mor naturiol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?