S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Catrin Herbert

Ein Tir Na Nóg Ein Hunain

Mae Catrin yn gobeithio y bydd ei chân bop, Ein Tir Na Nóg Ein Hunain, yn rhoi teimlad hafaidd braf i'r gynulleidfa a rhoi gwen ar eu hwynebau!

Daw Catrin yn wreiddiol o Gaerdydd ond mae'n byw yn Aberystwyth ar hyn o bryd tra'i bod yn astudio ar gyfer gradd mewn Cymraeg proffesiynol yno. Mae Catrin wedi bod yn chwarae offerynnau ers ei bod yn chwech oed - dros y blynyddoedd mae wedi dysgu chwarae piano, trymped, y gitâr a'r drymiau, ac yn cyfansoddi ers ei bod yn ddim o beth hefyd.

Mae'n dweud bod dylanwad jazz a cherddoriaeth gwlad ar ei cherddoriaeth a'i bod y n mwynhau cerddoriaeth John Mayer a Hunter Hayes, a'i harwres, Caryl Parry Jones. Mi fydd yn recordio'r trac yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch gyda Luc Prosser yn cynhyrchu, ac mae Luc a Catrin yn adnabod ei gilydd yn barod gan mai Luc gynhyrchodd EP Catrin, 'Y Gwir, Y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau, nôl yn 2011.

Mae'n debyg bod cystadlu ar Cân i Gymru wedi bod yn uchelgais gan Catrin erioed:

Dwi 'di tyfu lan yn gwylio'r gystadleuaeth bob blwyddyn, ac mae hi wedi body n freuddwyd i mi ers oeddwn i'n fach iawn. Mae Mam wedi fy annog i lawer, mae'n hyfryd gweld mor falch yw hi y bydda'i ar y rhaglen.

Pob lwc i ti Catrin!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?