S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Sera Owen – Oes yn Ôl

Mae Sera Owen yn gantores lawn amser ac wedi bod yn canu a chyfansoddi ers blynyddoedd. Dyma'r eildro iddi gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ar ôl ymddangos yn 2009.

"Byddwn i'n disgrifio'r gân fel un werin-bop-acwstig. Mae'n gân sy'n cychwyn yn syml gyda gitâr ond yna'n bywiogi'n sydyn iawn gydag offerynau gwerin a gwlad fel ffidil a ukulele." meddai Sera, sy'n wreiddiol o Gaernarfon.

Beth ydych chi'n ei feddwl o gân Sera? Defnyddiwch yr hashnod #oesynol

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?