S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Catrin Hopkins – Cariad Pur

Daw Catrin Hopkins o Gaernarfon ac mae wedi bod yn canu ers oedd hi'n 13 oed. Mae eisoes wedi ymddangos ar lwyfan gyda Bryn Fôn, ac roedd cael ei gwahodd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn dipyn o sioc i'r system iddi.

"Mae cael bod ar Cân i Gymru wir yn meddwl y byd i mi, a dw i wedi 'nghyffroi cymaint am gael canu ar y llwyfan!" Cafodd y gân ei hysgrifennu gan y grŵp pop Pheena.

Beth ydych chi'n meddwl o gân Catrin a Pheena? Defnyddiwch yr hashnod #cariadpur

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?