S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Codi Hwyl

Codi Hwyl ar y moroedd mawr

Bydd un o bartneriaethau mwyaf lliwgar y teledu'n mentro'n bellach nag y maen nhw erioed wedi ei wneud o'r blaen mewn cyfres newydd sbon o Codi Hwyl nos Fercher, 29 Mawrth ar S4C.

Bydd y gyfres newydd yn dilyn anturiaethau'r actor poblogaidd o Sir Fôn, John Pierce Jones, a'r diddanwr a'r comedïwr o'r Bala, Dilwyn Morgan, wrth iddyn nhw hwylio o Gaerdydd i Lydaw.

Yn y rhaglen gyntaf, mae John a Dilwyn yn hwylio'u cwch Mystique, o Gaerdydd ar draws y Sianel i Lydaw - taith tri diwrnod o hyd.

O harbwr bach L'Aber Wrac'h mae'r ddau yn ei hel hi am Brest, un o harbwrs naturiol mwyaf Llydaw. Landerne (Landerneau yn Ffrangeg) yw'r cyrchfan nesaf cyn mynd am Douarnenez, a wnaed yn enwog yng nghân Meic Stevens. Y stop olaf cyn dychwelyd i Gymru yw Konk Kerne (Concarneau), lle mae John a Dilwyn yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Rhwydi Glas, dathliad i anrhydeddu traddodiadau pysgota'r ardal.

A gyda'r ddau wedi gwneud sawl cyfres o Codi Hwyl erbyn hyn, oes perygl o gwbl i un ohonyn nhw daflu'r llall dros ochr y cwch?

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?