Cwis geiriol ydy 'Llyncu Geiriau'. Bob wythnos bydd Eleri Siôn yn herio dau dîm o ddysgwyr i adnabod, cofio, creu a chyfieithu geiriau o bob math. Dros naw rownd bydd rhaid i'r timau ddatrys croesair, adnabod pwy neu beth sy'n cael ei ddisgrifio, cyfieithu'n gyflym, cofio rhestr o bethau, creu geiriau newydd a bod y cyntaf i ateb cwestiynau ar themau gwahanol. Bydd cyfle hefyd i chi gymryd rhan yn her y gwylwyr. Felly ymunwch ag Eleri a'r panelwyr am hanner awr o hwyl a llyncu geiriau.
Brawd a chwaer o Wynedd ydy Tîm A. Mae Craig yn byw yn Llanllyfni ac yn gynghorydd sir ac mae Adrianne...
Mae'r panelwyr y tro yma i gyd o'r de. Ar Dîm A mae Mike o bentref Tonteg ger Pontypridd a Rwth sy'n byw yng Nghaerdydd.
Dysgwyr o'r de ydy'r ddau dîm y tro yma. Ar Dîm A mae Gari o bentref Mynwent y Crynwyr ger Merthyr Tudful a Wayne sy erbyn hyn yn byw yn nhref Merthyr Tudful.
Y gwragedd yn erbyn y dynion ydy hi ar Llyncu Geiriau y tro yma. Dwy ffrind o Sir Benfro ydy Tîm A - Sally a Gayle. Mae Sally yn byw yn Noc Penfro ac yn gweithio mewn canolfan astudio maes.
Y gogledd yn erbyn y de ydy hi ar Llyncu Geiriau y tro yma. Tîm A ydy Martyn o bentref Llanor, Gwynedd a Geraint sy'n byw yn ardal Wrecsam.
Y de yn erbyn y gogledd ydy hi ar Llyncu Geiriau y tro yma.
Y dynion yn erbyn y menywod ydy hi ar Llyncau Geiriau yn rhaglen olaf y gyfres hon.
Rhaglen 1
Rhaglen 2
Rhaglen 3
Rhaglen 4
Rhaglen 5
Rhaglen 6
Rhaglen 7
Rhaglen 8