S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau:

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd yn rhan o raglenni 'Heno' a 'Prynhawn Da.'

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis, Pawb Cyf neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Cynigir hampyr o nwyddau gwerswylla fel gwobr.

4. I gystadlu, bydd rhaid ateb cwestiwn aml-ddewis fydd yn cael ei osod yn ystod y rhaglen.

Y rhif ffôn i gystadlu yw 08443 35 12 44

5. Er mwyn cofrestru eich ateb ffoniwch 08443 351244 gan ddewis un o'r tri ateb - gan wasgu botwm 1, 2 neu 3 ar eich ffôn i gofrestru eich dewis.

Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 19:00 ar y 22ain o Fai 2017 ac yn cau am 15:00 ar y 24ain o Fai 2017.

(Cost galwad yw 5c y funud yn ogystal â phris mynediad i'r rhwydwaith eich cwmni ffôn. Cost o ddarparwyr eraill a ffonau symudol yn dibynnu ar y darparwr. Gall cost galwadau a wneir gan ddefnyddio ffonau symudol fod yn sylweddol uwch. Rhoddir rhybudd os ffonnir wedi i'r llinellau ffôn gau ond mae posibilrwydd y codir cost am yr alwad gan y darparwr ffôn).

6. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth, ond efallai y codir tal amdanynt.

7. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

8. Gallwch gystadlu mor aml ag y dymunwch ond dim ond un wobr sydd i ennill yn gysylltiedig â phob gystadleuaeth.

9. Rhaid I ymgeiswyr fod dros 18 oed.

10. Dewisir un enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau cywir a gyflwynir erbyn y dyddiad a'r amser cau ar gyfer pob gystadleuaeth unigol. Bydd penderfyniad Tinopolis ynghylch yr enillydd yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

11. Hysbysir yr enillydd mewn galwad ffôn wedi amser cau y gystadleuaeth. Os na dderbyniwyd Tinopolis ateb i'r galwad gan yr enillydd, yna ceidw Tinopolis yr hawl i wobrwyo'r wobr i'r enillydd nesaf neu i ddefnyddio'r wobr ar gyfer defnydd hyrwyddo yn y dyfodol yn unol â'i ddisgresiwn.

12. Ar y dyddiad cau, bydd yr enillydd yn cael ei ffonio, ac ar ôl y dyddiad cau ceidw S4C/Tinopolis yr hawl i gyhoeddi enw'r enillydd a'r sir y maent yn byw ynddi ar s4c.cymru yn adran "Heno" am 21 diwrnod a/neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

13. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

14. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

15. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

16. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

17. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

18. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb a phrawf ei bod wedi cyrraedd.

19. Caiff y wobr ei ddanfon drwy'r post i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb a phrawf eu bod wedi cyrraedd.

20. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

21. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

22. Wrth ffonio'r llinell gyswllt rydych yn rhoi'r hawl i Tinopolis, S4C, a Pawb Cyf gymryd cofnod o'ch rhif ffôn a'ch ardal yn awtomatig at bwrpasau gweinyddu'r gystadleuaeth. Mae Tinopolis yn defnyddio gwasanaethau Pawb Cyf i weinyddu'r gystadleuaeth. Ni fydd Tinopolis, S4C na Pawb Cyf yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw trydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

23. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

24. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?