S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau, Telerau ac Amodau : Cystadleuaeth chwilio am gi mwyaf arwrol Cymru

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd yn rhan o raglenni 'Heno' a 'Prynhawn Da.'

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, os yn iau â chaniatâd rhiant/gofalwr, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Cynigir gwobr o flwyddyn o fwyd i un ci gan gwmni bwyd Pero sy'n noddi'r gystadleuaeth, a hamper o nwyddau i'r ci.

4. I gystadlu, bydd rhaid danfon e-bost at heno@tinopolis.com yn enwebu un ci ar gyfer y gystadleuaeth. Yn ogystal ag enwebiad, bydd gofyn i'r cystadleuydd ddanfon llun o'r ci a disgrifiad byr.

5. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 19:00 ar yr 1af o Dachwedd ac yn cau am 12:00y.p. ar y 14eg o Dachwedd 2017.

6. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

7. Bydd tri beiriniaid allanol sef Sara Manchipp, cyn Miss Cymru sy'n lys genhades y ganolfan RSPCA Llys Nini, y milfeddyg Dr Lowri Davies a Jonathan Rees o'r cwmni bwyd anifeiliaid, Pero. Bydd y beirniaid yn derbyn e-byst holl ymgeiswyr y gystadleuaeth, ac yn dewis deg o'r enwebiadau i ffurfio rhestr fer erbyn y 16eg o Dachwedd. Bydd y wybodaeth bersonol – cyfeiriadau e-byst, rhifau cyswllt ac enwau - yn cael eu dileu o'r ohebiaeth rhwng Tinopolis a'r beirniaid.

8. Bydd 10 ffilm yn cael eu cynhyrchu o gystadleuwyr y rhestr fer ac yn cael eu dangos ar HENO.

9. Bydd y beirniaid yn y cyfamser yn ail-ymgynull i ddewis un allan o'r deg i ennill teitl 'Ci mwyaf arwol Cymru', ac yn ennill y wobr o fwyd i un ci am flwyddyn a hamper o nwyddau.

10. Bydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu ar rifyn Heno nos Iau y 30ain o Dachwedd.

11. Gallwch gystadlu mor aml ag y dymunwch ond dim ond un wobr sydd i ennill yn gysylltiedig â phob cystadleuaeth.

12. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, os yn iau na 18 rhaid cael caniatâd rhiant/gofalwr.

13. Bydd penderfyniad y beirniaid ynghylch yr enillydd yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

14. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo ar deledu neu gyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook, Twitter, Instagram

15. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

16. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

17. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

18. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

19. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

20. Caiff yr hamper, a drefnir gan Tinopolis, ei ddanfon drwy'r post neu ei gludo gyda llaw i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb â phrawf eu bod wedi cyrraedd.

21. Bydd Cwmni Bwyd Pero – Pero (Foods) Ltd yn darparu'r wobr o fwyd i un ci am flwyddyn (uchafswm o un bag 12kg bob mis), ac yn cysylltu'n uniongyrchol gydag enillydd y gystadleuaeth er mwyn trefnu i ddaparu'r wobr.

22. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

23. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

24. Ni fydd Tinopolis na S4C yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

25. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

26. Trefnir y gystadleuaeth hon gan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?