S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau, Telerau ac Amodau : Cystadleuaeth Facebook

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd ar dudalen Facebook rhaglenni 'Heno' a 'Prynhawn Da.'

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 13 oed neu'n hŷn, os yn iau na 18, â chaniatâd rhiant/gofalwr, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Cynigir gwobr o jar o wyau siocled bach fel y gwelir yn y fideo ac wy pasg.

4. I gystadlu, bydd rhaid dyfalu'n gywir sawl wy bach sydd yn y jar sydd yn y fideo perthnasol ar dudalen Facebook Prynhawn Da S4C trwy osod sylw ar y fideo gyda'r rhif.

5. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 19:00 ar yr 16eg o Ebrill 2019 ac yn cau am 15:00 ar y 18eg o Ebrill 2019.

6. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

7. Yr enillydd fydd y person sydd wedi dyfalu'n gywir, neu os na fydd unrhyw un yn dyfalu'n gywir, y person sydd agosaf at y nifer. Os fydd mwy nag un person wedi dyfalu'r nifer cywir / agosaf, bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith y bobl hynny oedd yn gywir neu'n agosaf.

8. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

9. Hysbysir yr enillydd mewn neges breifat wedi amser cau y gystadleuaeth. Os na dderbyniwyd Tinopolis ateb i'r neges gan yr enillydd, neu os nad yw gosodiadau preifatrwydd yr enillydd yn galluogi Tinopolis i gysylltu, yna ceidw Tinopolis yr hawl i wobrwyo'r wobr i'r enillydd nesaf neu i ddefnyddio'r wobr ar gyfer defnydd hyrwyddo yn y dyfodol yn unol â'i ddisgresiwn.

10. Ar ôl y dyddiad cau ceidw S4C/Tinopolis yr hawl i gyhoeddi enw'r enillydd a'r sir y maent yn byw ynddi ar s4c.cymru yn adran "Heno" am 21 diwrnod a/neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

11. Gall un proffil Facebook gystadlu unwaith yn unig.

12. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 13 mlwydd oed. Os yw ymgeiswyr yn iau na 18, rhaid cael caniatâd rhiant/gofalwr cyn derbyn unrhyw wobr.

13. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo ar deledu neu gyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook, Twitter, Instagram

14. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

15. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

16. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

17. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

18. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

19. Caiff y wobr, a drefnir gan Tinopolis, ei ddanfon drwy'r post neu ei gludo gyda llaw i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb â phrawf eu bod wedi cyrraedd.

20. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

21. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

22. Ni fydd Tinopolis na S4C yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

23. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

24. Trefnir y gystadleuaeth hon gan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?