S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Trwy ddanfon fideo ar gyfer calendr Heno, rydych yn cytuno bod y fideo yma yn cael ei gynnwys yn y calendr ac y gallai'r fideo gael ei ail-gynhyrchu ar raglenni Heno a Prynhawn Da ac ar ein holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft Facebook, Twitter ac Instagram) at ddibenion eitem y calendr ar y rhaglen.

OS OES PERSON NEU BERSONNAU O DAN 18 YN YMDDANGOS YN Y FIDEO YMA, BYDD ANGEN I CHI GADARNHAU FOD CANIATÂD RHIANT I YMDDANGOS YN BODOLI CYN EIN BOD YN GALLU DANGOS Y FIDEO. NODWCH HYN WRTH ANFON Y FIDEO OS GWELWCH YN DDA.

Os nad ydych yn hapus i ni ddangos eich fideo chi, ar unryw un o'r llwyfannau hyn, danfonwch ebost atom yn syth i calendr@tinopolis.com. Fel rhan o'r eitem hon, byddwch yn deall y byddwn yn casglu, yn dal ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn ymwneud â chi a'ch cyfraniad i'r gystadleuaeth, yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd sydd i'w weld ar http://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu, yswirio a rheoli'r eitem, ac er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i gadw cofnodion penodol. Gallwn hefyd ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i weithredu gwiriadau cefndir rhesymol (eto, yn dibynnu ar natur y gystadleuaeth) er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau rheoliadol ac i wirio'r wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu i ni. Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn diwallu ein rhwymedigaethau amodol i chi fel cyfrannydd, er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a, lle bo' angen er ein budd cyfreithiol. Mae ein buddion cyfreithiol yn cynnwys sicrhau bod yr holl gyfraniadau yn addas ar gyfer y Rhaglen a bod y Rhaglen yn cyrraedd ein safonau ac yn cydymffurfio â'n holl rhwymedigaethau cyfreithiol. Efallai y byddwn yn hysbysu ein ymgynghorwyr, pobl ddynodedig , trwyddedai, awdurdodau rheolaethol, partner darlledu ac eraill fel bo' angen yn ôl y Gyfraith o'ch gwybodaeth bersonol. Gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i du allan i'r Ardal Economaidd Ewropaidd lle bo' angen i ni wneud hynny. Os yw'ch manylion personol yn newid, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion. Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth personol yn ein hysbysiad preifatrwydd ar http://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Diolch.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?