S4C
Dewisiadau

Cynnwys

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd ar dudalen Facebook rhaglenni 'Heno' a 'Prynhawn Da.'

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Y wobr yw'r cyfle i fod yn Fasgot Swyddogol ar gyfer Tîm Menywod Cymru (24.2.19) neu dîm Cymru o dan 20 (22.2.19) ar gyfer gemau Cymru v Lloegr ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad 2019, pedwar tocyn i'r gêm a bydd yr enillwyr yn cael mynd a'r cit Cymru a wisgwyd ar y diwrnod. Ni thalir treuliau na chostau teithio.

4. I gystadlu, rhaid i'r cystadleuwyr e-bostio heno@tinopolis.com gyda'u henw, enw'r plentyn sy'n cystadlu, oedran ac enw'r ysgol ynghyd ag esboniad, nid fwy nag 20 gair, am y byddai eich mab neu ferch yn caru bod yn Fasgot Swyddogol Cymru.

5. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o'r 11eg o Chwefror 2019 ac yn cau ar yr 15fed o Chwefror 2019.

6. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth a rhaid i'r plant sy'n cael eu henwebu fod yn 14 neu iau.

7. Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl enwau ddaw i law sydd wedi cwblhau amod 4 uchod.

8. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

9. Dewisir yr enillydd gan gynrychiolydd Undeb Rygbi Cymru. Hysbysir yr enillydd drwy e-bost gan Undeb Rygbi Cymru. Os na dderbynnir neges, neu os nad yw gosodiadau preifatrwydd yr enillydd yn galluogi Tinopolis i gysylltu, yna ceidw Tinopolis yr hawl i wobrwyo'r wobr i'r enillydd nesaf.

10. Ar ôl y dyddiad cau ceidw S4C/Tinopolis yr hawl i gyhoeddi enw'r enillydd a'r sir y maent yn byw ynddi ar s4c.cymru yn adran "Heno" am 21 diwrnod a/neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

11. Gall un proffil Facebook gystadlu unwaith yn unig.

12. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 mlwydd oed.

13. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo ar deledu neu gyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook, Twitter, Instagram

14. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

15. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

16. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

17. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

18. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

19. Caiff y wobr, a drefnir gan Tinopolis, ei ddanfon drwy'r post neu ei gludo gyda llaw i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb â phrawf eu bod wedi cyrraedd.

20. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

21. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

22. Ni fydd Tinopolis na S4C yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

23. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

24. Trefnir y gystadleuaeth hon gan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?