S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau Cystadleuaeth Dylunio Label ar gyfer potel win "Gwynt y Paith"

Mae "Gwynt y Paith" yn win sy'n cael ei gynhyrchu gan Bodega Malma ym Mhatagonia,Ariannin (Ruta Provincial N°7, San Patricio del Chañar, Neuquén, Argentina). Fel yr hysbysebwyd arHeno (23/4/19) mae'r winllan yn chwilio am gynllun gan artist /artistiaid Cymreig fyddai'n addas i'w roi ar y botel win.Disgwylir i'r cynllun buddugol adlewyrchu naws enw "Gwynt y Paith" a'r cefndir ym Mhatagonia. Cynrychiolwyr Bodega Malma fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth ac fe fydd eu penderfyniad yn derfynol.

Fe fydd yr enillydd yn derbyn cas o win "Gwynt y Paith "ac fe ddefnyddir y cynllun buddugol i hyrwyddo'r gwin ar y botel ac ar gyfryngau eraill ee radio a theledu / y wasg / cyfryngau cymdeithasol.

Rheolau'r gystadleuaeth:

Rhaid bod dros 18 oed i gystadlu

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 30 Mehefin 2019

Fe fydd yr unigolyn llwyddiannus yn aseinio hawlfraint y cynllun buddugol i Bodega Malma ar gyfer y pwrpas o hyrwyddo, a'i ddefnyddio ar boteli gwin, "Gwynt y Paith". Fe fydd yr unigolyn llwyddiannus hefyd yn gwarantu fod y cynllun yn un gwreiddiol a ddim yn tarfu ar hawlfraint unrhyw drydydd-parti.

Dylid anfon cynlluniau i'r gystadleuaeth i heno@tinopolis.com gyda'r teitl 'Cystadleuaeth Dylunio Label ar gyfer potel win "Gwynt y Paith"'. Fe fydd y cynlluniau yn cael eu trosglwyddo i'r beirniaid erbyn y dyddiad cau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?