S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau ac Amodau Cystadleuaeth Lluniau 2020

Rheolau ac Amodau Cystadleuaeth Ffotograffiaeth yr Hydref

1.Y canlynol yw'r rheolau a'r termau am gystadlaethau sy'n digwydd ar raglenni dyddiol Tinopolis, Prynhawn Da a Heno. Drwy gymryd rhan mewn unrhyw un gystadleuaeth rydych yn cytuno i lynu wrth yr holl dermau priodol.

2.Pe ceir gwahaniaeth rhwng Termau Cystadleuaeth Safonol Tinopolis a Hysbysiad Cystadleuaeth unigol, termau Hysbysiad y Gystadleuaeth fydd yn sefyll.

3.Os na nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, caiff y cystadlaethau eu trefnu a'u hyrwyddo gan Heno neu Prynhawn Da, y ddwy yn rhaglenni Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE ("Tinopolis") a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion ynglŷn â chystadlaethau yn gyntaf at Tinopolis at y cyfeiriad uchod.

4.Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb. Os bydd ymgeisydd o dan 18 mlwydd oed, rhaid i'r ymgeisydd dderbyn caniatâd gan riant neu warchodwr er mwyn gallu cystadlu.

5.Gall gofynion cymhwyster ychwanegol gael eu gosod yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.

6.Ni thalir ffi ar gyfer unrhyw lun, boed y llun yn cael ei ddefnyddio neu beidio.

7.I fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth, rhaid i'r ymgeisydd anfon eu llun drwy e-bost at lluniau@tinopolis.com, drwy'r post at Lluniau, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gâr, SA15 3YE, neu drwy dudalennau Facebook a Twitter Prynhawn Da a Heno. Ni ystyrir cais drwy unrhyw fodd arall.

8.Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno yn unol â rheolau'r gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw gais arall.

9.Bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 7:00yh ar yr 2ail o Hydref 2020 a 12yp ar y 30ain o Hydref 2020. Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei feirniadu ar raglen Heno ar S4C ar y 30ain o Hydref 2020.

10.Ni dderbynnir unrhyw gais ar ôl yr amser a'r dyddiad cau.

11.Mae'r gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan feirniad o ddewis Tinopolis. Bydd y beirniad yn adolygu'r holl luniau ar ôl amser cau'r gystadleuaeth ac yn dewis enillydd, ail safle, a thrydydd safle. Cyhoeddir y canlyniadau ar raglen Heno ar y 30ain o Hydref 2020.

12.Bydd penderfyniad y beirniaid am y rhestr fer a'r enillydd yn derfynol. Ni roddir unrhyw adborth na beirniadaeth ysgrifenedig.

13.Trwy gyflwyno eich llun(iau) i'r gystadleuaeth, rydych yn cytuno y bydd eich llun(iau) yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth, ac y gellir eu hatgynhyrchu ar raglenni Prynhawn Da a Heno, yn ogystal â'n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (e.e. Facebook a Twitter) at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth.

14.Os nad ydych yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich llun neu luniau ar unrhyw un o'r llwyfannau uchod, cysylltwch â ni yn syth drwy e-bostio lluniau@tinopolis.com

15.OS OES PERSON NEU BERSONAU DAN 18 MLWYDD OED YN YMDDANGOS YN EICH LLUN(IAU), BYDD ANGEN I CHI GADARNHAU BOD CANIATÂD RHIANT AR GAEL CYN Y GALLWCH GYSTADLU. ANFONWCH E-BOST AT LLUNIAU@TINOPOLIS.COM YN NODI BOD GENNYCH Y CANIATÂD PRIODOL.

16.Gall pob cystadleuydd gyflwyno unrhyw nifer o luniau i'r gystadleuaeth.

17.Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma, mae'r cystadleuydd yn cadarnhau bod eu cais/ceisiadau yn waith gwreiddiol ganddyn nhw yn unig, a'u bod yn dal pob hawl i'r llun. Ni ellir ystyried unrhyw lun(iau) ar gyfer y gystadleuaeth nad yw'n waith gwreiddiol yr ymgeisydd neu'n waith sydd wedi ei ddefnyddio er budd masnachol. Mae Tinopolis yn cadw'r hawl i wirio'r uchod cyn cyhoeddi'r enillydd neu os cyflwynir gwybodaeth o'r fath wybodaeth neu darganfyddir gan Tinopolis ar ôl i'r enillydd gael ei gyhoeddi, bydd Tinopolis yn cadw'r hawl i ddiarddel y cystadleuydd, atal y wobr a chyhoeddi enillydd newydd pe dymunent.

18.Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i newid y rheolau, ac i ganslo neu addasu'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i resymau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.

19.Os fydd unrhyw anghytuno ynglŷn â'r termau, y wobr, y canlyniad neu unrhyw fater arall yn ymwneud â'r gystadleuaeth, bydd penderfyniad Tinopolis yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth gan y cwmni.

20.Trwy gystadlu, mae'r cystadleuwyr yn cytuno, cadarnhau a gwarantu:

i.bod yr holl wybodaeth a ddarparoch i Tinopolis yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn, a'ch bod yn bodloni holl feini prawf y gystadleuaeth.

ii.os enillwch y gystadleuaeth, gall Tinopolis a S4C ddefnyddio eich enw a'ch llun at ddibenion cyhoeddusrwydd.

iii.gall Tinopolis, S4C (ac unrhyw drydydd parti a awdurdodir gan Tinopolis neu S4C) ddefnyddio'r cais ar draws eu Gwasanaethau ac ar unrhyw gyfrwng (gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i wefannau trydydd parti, ffonau symudol, teledu a/neu radio). At y diben hwn, rydych felly'n rhoi i Tinopolis a S4C (a thrydydd parti a awdurdodwyd gan Tinopolis neu S4C) drwydded heb fod yn gyfyngedig, diddiwedd, ddiamod, byd-eang, heb freindal (ar gyfer holl gyfnod unrhyw hawliau wrth ymgeisio) i ddefnyddio, arddangos, cyhoeddi, darlledu, copïo, gwneud gwaith deilliadol neu bodlediadau ohono, golygu, newid, storio, ail-fformadu, defnyddio fel rhan o unrhyw ymgyrch hysbysebu neu noddi, gwerthu, ac is-drwyddedu'r cynnig.

iv.bod eich cais ac unrhyw wybodaeth a gyflwynir gennych yn bersonol i chi.

v.na fydd eich cais a'r holl wybodaeth a gyflwynir neu a ddosberthir yn amharu ar eiddo deallusol, preifatrwydd nac unrhyw hawl sydd gan unrhyw drydydd parti, ac na fydd yn cynnwys unrhyw beth sy'n enllibus, difenwol, aflednais, anweddus, yn aflonyddu neu'n fygythiol.

vi.bod gennych ganiatâd i ddefnyddio neu roi sylw i unrhyw bobl, cynnwys neu ddeunydd arall yn eich cais.

vii.eich bod yn cytuno cael eich ymrwymo i'r rheolau.

viii.gan S4C yr hawl i ddefnyddio'r lluniau sydd yn cyrraedd y rhestr fer mewn fideos at bwrpas marchnata ar deledu neu lwyfannau cymdeithasol e.e. Facebook, Twitter, Instagram.

21.Mae Tinopolis a S4C yn cadw'r hawl i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig am ffotograffydd y llun sydd wedi ei gyflwyno i gadarnhau fod y ffotograffydd yn gymwys i gyflwyno ymgais i'r gystadleuaeth.

22.Ceidw Tinopolis yr hawl i wirio cymhwysder pob ymgeisydd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth, gan gynnwys yr hawl i ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig o oedran yr enillwyr. Gall Tinopolis anghymwyso unrhyw ymgeisydd sydd yn gwrthod neu nad yw'n darparu'r wybodaeth yma ar gais a gall Tinopolis anghymwyso unrhyw ymgeisydd os oes sail dilys dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw un o'r telerau.

23. Os caiff cystadleuydd ei anghymwyso rhag cystadlu am unrhyw reswm, gall Tinopolis, yn ôl eu disgresiwn, ddyfarnu'r wobr i'r ail yn y rhestr yn unol â meini prawf y gystadleuaeth.

24. Ni ellir derbyn prawf o e-bostio fel prawf ei fod wedi cyrraedd. Nid yw Tinopolis yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall, hepgoriad, ymyriad, dilead, diffyg neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu geisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni fydd Tinopolis chwaeth yn gyfrifol am ladrad, dinistr, newid neu fod rhywun wedi cael gafael ar gynnig heb ganiatâd, neu gynnig a gaiff ei golli, niweidio neu oedi o ganlyniad i broblemau cyfrifiadurol, technegol, firws, byg, neu achosion eraill y tu allan i reolaeth Tinopolis.

25. Nid yw Tinopolis yn derbyn y cyfrifoldeb am gadw unrhyw geisiadau'n ddiogel na dychwelyd unrhyw gais. Dylech sicrhau eich bod yn cadw copi o'ch cais ar gyfer eich cofnodion eich hun.

26. Mae'r wobr yn derfynol ac ni ellir ei chyfnewid na'i throsglwyddo.

27. Mae Tinopolis a S4C yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw a Sir breswyl yr enillydd ar gynyrchiadau Tinopolis a gwefannau S4C am 21 diwrnod. Bydd y wybodaeth yma hefyd ar gael yn dilyn y dyddiad cau drwy ffonio Tinopolis ar 01554 880880 (nid yw galwadau'n costio mwy na galwad arferol ar y gyfradd genedlaethol) neu ysgrifennu at dîm cynhyrchu Tinopolis, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE, gan nodi'r gystadleuaeth yr hoffech drafod a chan gynnwys amlen â stamp hunangyfeirio arni.

28. Cyfrifoldeb yr enillydd yn unig yw pob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario, ac unrhyw gostau a threuliau eraill (gan gynnwys bwyd a threuliau personol) oni nodir yn wahanol yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.

29. Nid yw Tinopolis, oni nodir yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, yn hawlio unrhyw hawliau perchnogaeth o'ch cais. Fel y cyfryw, byddwch yn parhau i fod yn berchen ar eich cais a gallwch ei ddefnyddio fel y dymunech. Gall Tinopolis ddefnyddio eich cais fel y nodwyd yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Os yw Tinopolis yn bwriadu cymryd perchnogaeth o'ch cais, bydd hynny wedi ei nodi yn Hysbysiad y Gystadleuaeth a gallwch wedyn benderfynu os ydych yn dymuno cystadlu.

30. Nid yw Tinopolis yn gwarantu defnyddio unrhyw gais. Gall Tinopolis,o dan amgylchiadau priodol, ar ei ddisgresiwn ei hun, wrthod, golygu, dileu neu analluogi mynediad at unrhyw gais os bydd o'r farn y gallai fod yn broblemus yn gyfreithiol neu fel arall.

31.Mae Tinopolis yn gwrthod unrhyw gyfrifoldeb, i'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw unigolyn, sy'n codi o'r ffaith, ei fod ef neu hi, wedi cystadlu yn y Gystadleuaeth.

32. Pan fydd cystadlaethau a redir gan Tinopolis neu S4C yn defnyddio Facebook a/neu Instagram (neu unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol arall), mae'r ymgeiswyr yn derbyn nad yw'r gystadleuaeth yn cael ei noddi, ei hardystio na'i gweinyddu o gwbl neu'n gysylltiedig â Facebook a/neu Instagram ac mae'r ymgeisydd yn rhyddhau Facebook a/neu Instagram oddi wrth unrhyw rwymedigaeth sydd yn codi mewn cysylltiad â hwy sy'n cystadlu yn y gystadleuaeth.

33. Ni fydd Tinopolis na S4C yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon. Bydd data personol yn cael ei storio yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) 2016/679.

34. O gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn deall y bydd Tinopolis yn casglu, dal, a phrosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chi a'ch cyfraniad i'r gystadleuaeth, yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd fel y nodir yma: http://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Yn dibynnu ar natur y gystadleuaeth gall hyn gynnwys data personol sensitif. Defnyddiwn eich data personol ar gyfer gweinyddu, yswiriant a dibenion rheoli'r gystadleuaeth, ac i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i gadw cofnodion penodol. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i gynnal gwiriadau cefndirol rhesymol (eto, gan ddibynnu ar natur y gystadleuaeth) er mwyn cydymffurfio â'n cyfrifoldebau rheoleiddio a gwirio'r wybodaeth a ddarparoch i ni.

35. Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol â chi fel cystadleuydd, er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a lle mae'n angenrheidiol ei bod o fudd cyfreithlon i wneud hynny. Mae ein buddiannau cyfreithlon yn cynnwys sicrhau bod holl gyfraniadau'r gystadleuaeth yn addas ar gyfer y Rhaglen, a bod y Rhaglen yn bodloni ein safonau ac yn cydymffurfio â'n holl rwymedigaethau cyfreithiol.

36. Efallai y byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth ar gael i'n cynghorwyr, aseinwyr, trwyddedigion, awdurdodau rheoleiddio, partner darlledu ac eraill fel sydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i du allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd lle bo angen i ni wneud hynny. Os bydd eich manylion personol yn newid yn ystod cyfnod y gystadleuaeth, cysylltwch â ni er mwyn i ni ddiweddaru'ch cofnodion.

37. Mae amodau llawn a thelerau cystadlaethau S4C ar gael ar: http:// www.s4c.cymru/en/about-this-site/page/16772/competition-terms-and-conditions/ yn ogystal ceir mwy o wybodaeth am y ffyrdd rydym yn defnyddio'ch gwybodath bersonol ar ein hysbysiad preifatrwydd ar http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

38. Ni fydd Tinopolis na S4C yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau neu oedi gan gystadleuwyr wrth gystadlu. Ni fydd Tinopolis na S4C yn gyfrifol am geisiadau a wneir wedi'r amser a'r dyddiad cau.

39. Mae Tinopolis a S4C yn eithrio cyfrifoldeb i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, am unrhyw golled, difrod, anaf neu siom a ddioddefir gan unrhyw unigolyn sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sydd yn digwydd i'r enillydd yn sgil derbyn y wobr.

40. Mae pob Cystadleuaeth a'r Termau yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr, a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i Awdurdodaeth Unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.

41. Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Dylid gwneud unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth drwy:

Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141. (Ni fydd galwadau'n cael eu codi ar gyfradd uwch na'r gyfradd genedlaethol am rifau 01 neu 02)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?