S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Heno Nos Sadwrn: Rheolau ac Amodau 'Ffansi Ffortiwn'

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth Ffansi Ffortiwn a gyhoeddwyd yn rhan o raglenni 'Heno'.

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis, Pawb Cyf neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis, Pawb Cyf neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

2. Cynigir amrywiaeth o wobrau ariannol rhwng £50 a £1000 yn ddibynnol ar lle mae'r olwyn yn glanio.

3. I gystadlu, rhaid cofrestru wrth ffonio 08443 35 18 97.

4. Bydd y llinellau ar agor ar y noson o 7.30y.h. tan 7.45yh.

5. Cost galwad yw 5c y funud yn ogystal â phris mynediad i'r rhwydwaith cwmni ffôn yr ymgeisydd. Mae cost o ddarparwyr eraill a ffonau symudol yn dibynnu ar y darparwr. Gall cost galwadau a wneir gan ddefnyddio ffonau symudol fod yn sylweddol uwch. Rhoddir rhybudd os ffonnir wedi i'r llinellau ffôn gau y bydd posibilrwydd y codir cost am yr alwad gan y darparwr ffôn.

6.Yr amser cau yw 7.45yh ar noson y gystadleuaeth. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth, ond efallai y codir tal amdanynt.

7. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

8. Gellir cystadlu mor aml ag y dymunir ond dim ond un wobr sydd i ennill.

10. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

11. Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau cywir adderbynir erbyn yr amser cau. Bydd penderfyniad Tinopolis ynghylch yr enillydd yn derfynol.

12. Hysbysir yr enillydd o'r swm enillwyd yn fyw ar yr awyr. Os na atebir y r alwad gyntaf, yna ceidw Tinopolis yr hawl i wobrwyo'r wobr i'r enillydd nesaf neu i ddefnyddio'r wobr ar gyfer defnydd hyrwyddo yn y dyfodol yn unol â'i ddisgresiwn.

13. Unwaith fydd yr enillydd drwyddo i'r stiwdio, fe droellir yr olwyn gan y gwestai. Pa bynnag swm ariannol fydd yr olwyn yn gorffen arni dyma'r swm ariannol fydd yn cael ei ennill gan y cystadleuydd.

14. Cyhoeddir enw'r enillydd a'r ardal y maent yn byw ynddi ar www.heno.tv yn yr adran cystadlaethau am 21 diwrnod a/neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

15. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

16. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

17. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

18. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr. Bydd y swm a fydd yn ymddangos ar yr olwyn yn derfynnol.

19. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb a phrawf ei bod wedi cyrraedd.

20. Caiff y wobr ei ddanfon ar ffurf siec drwy'r post i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu, neu trwy law aelod o staff Tinopolis. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb a phrawf eu bod wedi cyrraedd. Gall y taliad gymryd hyd at fis i gyrraedd.

21. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

22. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

23. Wrth ffonio'r llinell gyswllt rydych yn rhoi'r hawl i Tinopolis, S4C, a Pawb Cyf gymryd cofnod o'ch rhif ffôn a'ch ardal yn awtomatig at bwrpasau gweinyddu'r gystadleuaeth. Mae Tinopolis yn defnyddio gwasanaethau Pawb Cyf i weinyddu'r gystadleuaeth. Ni fydd Tinopolis, S4C na Pawb Cyf yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw trydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon a byddant yn dinistrio'r holl wybodaeth bersonol yn eu meddiant cyn gynted â phosib wedi i'r gystadleuaeth ddod i ben. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

23. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

24. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?