Darlledwyd y gyfres Noson Lawen gyntaf ar S4C yn 1982, ac ers hynny, mae wedi profi i fod yn gyson boblogaidd gyda gwylwyr o bob oed. Gallwch ddisgrifio'r gymysgedd o eitemau wythnosol, yn cynnwys cantorion, corau, cerddorion, comediwyr a sgetsys yn sioe adloniant draddodiadol. Gan dalu teyrnged i'w gwreiddiau gwledig yng Nghymru'r gorffennol, mi roedd cynulleidfaoedd y Noson Lawen ar y dechrau yn eistedd ar bêls gwair, gyda'r perfformwyr wedi eu gosod ar drelar fferm.
Dros y blynyddoedd, mae golwg a ffurf y gyfres wedi newid. Mae'r gynulleidfa heddiw yn eistedd ar seddau cyffyrddus, mae'r setiau yn gyfoes ond mae calon y gyfres yn parhau i guro'n gadarn. Mae'r gyfres yn cael ei recordio mewn canolfannau led-led Cymru ac mae wedi cynnig llwyfan cynnar i rai o dalentau mwyaf Cymru gan gynnwys y cantorion Bryn Terfel, Connie Fisher a Katherine Jenkins.
Y band o'r Gorllewin, Mattoidz sy'n perfformio cân newydd o'r new 'Blodeuo' ar lwyfan y Noson Lawen.
Owen Shiers (Cynefin) sy'n perfformio 'Y Deryn Du', alaw werin sy'n dilyn yr hen draddodiad o ganu llatai, lle mae'r bardd yn gofyn i'r aderyn anfon neges serch at ei gariad.
Y soprano Jessica Robinson sy'n clodfori rhyddid a bywyd y sipsi fach yn y gân 'Hei Ho' gan Crwys a Haydn Morris.
Mari Mathias a'i band sy'n ymuno â band y Noson Lawen i berfformio ei chân wreiddiol 'Amddifadedd'.
Côr Ysgol y Strade, dan arweinid Christopher Davies sy'n perfformio 'Gwlith ar Galon Wag' – cân gyd-gyfansoddwyd gan Ieuan Rhys a Fiona Bennett.
Cynulleidfa o'r Gorllewin sy'n mwynhau Trystan Llŷr Griffiths yn hoelio un o'r hen ganiadau, 'Paradwys y Bardd' ar lwyfan y Noson Lawen.
'Caneuon Canu Gwlad' sy'n mynd â bryd y Welsh Whisperer ar lwyfan y Noson Lawen.
Mari Mathias ac Owen Shiers (Cynefin) sy'n rhoi perfformiad o'r galon o'r hen alaw werin 'Tra Bo Dau' i gynulleidfa wresog y Noson Lawen.
Jessica Robinson a Trystan Llŷr Griffiths sy'n taro'r nodau uchel i gloi Noson Lawen y Gorllewin gyda'u dehongliad o 'Non Ti Scordar Di Me', cân anfarwolwyd gan Luciano Pavarotti.