S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Blodfresychen Wedi ei Phobi Gyda Chaws Stilton

Blodfresychen Wedi ei Phobi Gyda Chaws Stilton

Cynhwysion

  • 1 Blodfresychen
  • 1 ½ Llwy fwrdd o fenyn heb ei halltu
  • 1 ½ Llwy fwrdd o flawd plaen
  • 250-275ml o Laeth
  • 250g Caws Glas / Stilton

Dull

  1. Torrwch y flodfresychen yn fach a'u coginio mewn dŵr berwedig am 2 funud. Draeniwch.
  2. I wneud y saws, toddwch y menyn mewn sosban a throwch y blawd i mewn.
  3. Coginiwch am gwpwl o funudau.
  4. Ychwanegwch y llaeth yn araf nes bod saws trwchus yn ffurfio.
  5. Ychwanegwch y caws glas a'i flasu cyn sesno gyda halen a phupur.
  6. Twymwch y ffwrn i wres o 200C ffan.
  7. Gosodwch y flodfresychen mewn dysgl ac arllwyswch y saws dros ei ben.
  8. Pobwch am 20 munud nes yn euraidd.
  9. I'w weini yn syth neu cadwch yn gynnes trwy ei adael yn y ffwrn am gwpwl o funudau.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?