S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Pwdin Efrog Enfawr

Pwdin Efrog Enfawr

Cynhwysion

  • 115g Blawd Plaen
  • 1 ½ Llwy de o halen
  • 3 Wy
  • 285ml o Laeth
  • 2 Llwy fwrdd o deim ffres
  • 5-6 Llwy fwrdd o olew llysiau

Dull

  1. Rhowch y blawd, yr halen a'r teim mewn powlen a chymysgwch yr wyau i mewn gan ddefnyddio fforc.
  2. Ychwanegwch y llaeth yn araf i ffurfio cytew esmwyth.
  3. Twymwch y ffwrn i wres o 220˚C ffan / 200˚C.
  4. Rhowch olew mewn padell ffrio a'i osod ar yr hob ar dymheredd uchel.
  5. Wedyn, rhowch y cytew i mewn yn araf.
  6. Gosodwch yn y ffwrn a'i bobi am 25 munud neu nes yn euraidd.
  7. I'w weini yn syth.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?