Dewisiadau
Cynnwys
Hafan
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Gwylio
Amserlenni
English
Menu
Hafan Adloniant
Parti Bwyd Beca
Hafan
Ryseitiau
Perfformiadau
Beca 2015
Instagram
Facebook
Twitter
Rhannwch y Stori
facebook
Facebook
twitter
Twitter
Grefi, Moron a Sbrowts
Cynhwysion
Browning Grefi
Blawd Plaen
Dŵr yn weddill ar ôl coginio'r llysiau
Gwin coch
3 Moron mawr
200g Sbrowts
Bacwn wedi'i fygu
Dull
Ar gyfer y grefi, defnyddiwch y sudd sy'n weddill ar ôl coginio'r cig eidion wedi ei dewhau gyda'r blawd.
Defnyddiwch y dŵr sy'n weddill ar ôl coginio'r llysiau gyda'r browning grefi os nad oes digon o liw arno.
Ychwanegwch ychydig o win coch.
Blaswch a'i sesno os oes angen gyda halen a phupur.
Cadwch yn gynnes nes yn barod i'w weini.
Ar gyfer y moron, pliciwch a'u torri yn fatonau.
Berwch mewn dŵr hallt.
Cadwch y dŵr ar gyfer y grefi.
Ar gyfer y sbrowts, torrwch yn chwarteri a'u gosod mewn dŵr hallt am ychydig funudau.
Draeniwch a chadwch y dŵr ar gyfer y grefi.
Ffriwch y bacwn cyn ychwanegu'r sbrowts.
I'w gweini yn syth, neu cadwch yn gynnes nes yn barod i'w gweini.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?