S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cystadleuaeth Mwy neu Lai

Cyfle i chi ennill £100 neu fwy drwy ateb cwestiynau yn gywir.

Am gyfle i gystadlu, rhaid i chi gofrestru eich rhif ffôn drwy ffonio 0844 335 1897.

Rheolau Cystadleuaeth Mwy neu Lai ar Prynhawn Da, 2016

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth 'Mwy neu Lai' a gyhoeddwyd yn rhan o raglen 'Prynhawn Da'.

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis, Pawb Cyf neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Cynigir gwobr o £10 am bob ateb cywir a rhoddir gan y cystadleuydd detholedig wrth ateb cwestiynau mewn munud.

4. Y gystadleuaeth: Rhaid i'r rheini sydd yn dymuno cystadlu cofrestru eu rhif ffôn drwy ffonio'r llinell gyswllt. Bydd cystadleuydd yn cael ei ddewis ar hap o blith y rheini sydd wedi cofrestri dymuniad i gymryd rhan. Caiff pob cystadleuydd detholedig y cyfle i gystadlu yn fyw ar y rhaglen Prynhawn Da i ennill y wobr. Bydd y cystadleuydd detholedig yn clywed cyfres o gwestiynau sydd â rhifau fel atebion, a hynny o fewn munud o amser. Does dim angen i'r cystadleuydd detholedig roi ateb i'r cwestiwn ond yn hytrach, rhaid iddynt ddweud a yw'r ateb i'r cwestiwn yn fwy neu'n llai na'r ateb i'r cwestiwn blaenorol. Rhoddir rhif ar y sgrin fel dechreuad i'r gystadleuaeth er mwyn i'r cystadleuydd detholedig gallu nodi a yw'r ateb i'r cwestiwn cyntaf yn fwy neu lai na'r rhif dechreuol. Bydd yr amser cystadlu yn dechrau pan fydd y cyflwynydd yn dechrau gofyn y cwestiwn cyntaf.

5. Am gyfle i gystadlu, rhaid i chi gofrestru eich rhif ffôn drwy ffonio 0844 335 1897.

(Bydd galwadau o linell sefydlog BT o 5c y funud, yn dibynnu ar eich cynllun. Bydd cost o ddarparwyr eraill a ffonau symudol yn dibynnu ar y darparwr. Gall cost galwadau a wneir gan ddefnyddio ffonau symudol fod yn sylweddol uwch. Rhoddir rhybudd os ffonnir wedi i'r llinellau ffôn gau ond mae posibilrwydd y codir cost am yr alwad gan y darparwr ffôn).

6. Dewisir y cystadleuwyr ar hap o blith yr holl geisiadau a chyflwynir erbyn yr amser cau ar ddyddiad y gystadleuaeth. Bydd penderfyniad Tinopolis ynghylch y cystadleuwyr yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

7. Hysbysir y cystadleuwyr detholedig mewn galwad ffôn wedi i'r llinellau ffôn ymgeisio cau, ei fod wedi ei ddewis i gystadlu o fewn rhaglen 'Prynhawn Da' cyn iddynt fynd ymlaen i gystadlu yn fyw. Os ni atebir y cystadleuydd detholedig y galwad gan Tinopolis yna ceidw Tinopolis yr hawl i roi cyfle i ymgeisydd arall cystadlu neu i ddefnyddio'r wobr ar gyfer defnydd hyrwyddo yn y dyfodol yn unol â'i ddisgresiwn.

8. Bydd llinellau ffôn ar agor rhwng 14:00 -14:30 ar ddyddiad y gystadleuaeth. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth, ond efallai y codir tal amdanynt.

5. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

6. Gallwch gystadlu mor aml ag y dymunwch.

7. Ar y dyddiad cau, cyhoeddir enw'r cystadleuydd detholedig a'r ardal y maent yn byw ynddi ar raglen Prynhawn Da.

8. Trwy gofrestru i gystadlu, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn cael eu dewis i gystadlu, y gall S4C a/neu Tinopolis ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

iv. yn cytuno gall Tinopolis a/neu S4C defnyddio eu cyfraniad i raglen Prynhawn Da yn ddigyfyngiad, mewn pob cyfrwng, yn rhydd o unrhyw daliadau, am byth.

9. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

10. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

11. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

12. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i gyfnewid y wobr, neu unrhyw ran ohoni, am wobr o'r un gwerth ariannol, neu o werth ariannol uwch, a bydd penderfyniad Tinopolis ac S4C yn hyn o beth yn derfynol.

13. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb a phrawf ei fod wedi cyrraedd.

14. Os mae cystadleuydd detholedig yn ennill gwobr caiff y wobr ei ddanfon drwysiec o fewn 6-8 wythnos o'r dyddiadi'r cystadleuydd detholedig gan gynrychiolydd o Tinopolis trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd gan y cystadleuydd detholedig i gynrychiolydd Tinopolis wedi i'r cystadleuydd detholedig cystadlu. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb a phrawf ei fod wedi cyrraedd.

15. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

16. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r cystadleuwyr detholedig o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

17. Wrth ffonio'r llinell cyswllt rydych yn rhoi'r hawl i Tinopolis, S4C, a Pawb Cyf gymryd cofnod o'ch rhif ffôn yn awtomatig at bwrpasau gweinyddu'r gystadleuaeth. Mae Tinopolis yn defnyddio gwasanaethau Pawb Cyf i weinyddu'r gystadleuaeth. Ni fydd Tinopolis, S4C na Pawb Cyf yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw trydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon a byddant yn dinistrio'r holl wybodaeth bersonol yn eu meddiant cyn gynted â phosib wedi i'r gystadleuaeth ddod i ben. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

18. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

19. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli,

Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?