S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau, Telerau ac Amodau : Cystadleuaeth Carol yr Ŵyl 2017

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd fel rhan o raglenni 'Heno' a 'Prynhawn Da.'

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl gorau plant ysgolion cynradd Cymru neu ysgolion cyfrwng Cymraeg tu hwnt i Gymru. Y gofyn i bob ysgol yw cyfansoddi carol neu gân Nadoligaidd (yn gerddoriaeth a geiriau) sydd ddim yn hwy na thair munud o hyd. Ni ddylid defnyddio cyfansoddwyr proffesiynnol. Does dim rheol ynglyn â maint y côr na nifer y cyfeilyddion. Gall y cyfeilydd/cyfeilyddion fod yn oedolion ond heb fod yn broffesiynnol oni bai eu bod yn athrawon. Disgwylir i bob ysgol drefnu'r caniatâd priodol am y plant oddi wrth riant/gofalwr, a bydd rhaid llenwi ffurflenni caniatâd cyn y recordio.

3. Cynigir ffi ymddangos o £50 i bob côr a fydd ar y rhestr fer ac a gaiff ei recordio ar gyfer darlledu. Bydd gwobr ariannol o £200 ynghyd â thlws i'r côr buddugol.

4. I gystadlu, bydd rhaid danfon e-bost at prynhawnda@tinopolis.com gyda recordiad o'r cynnig.

5. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 2:00 ar 7 Medi 2017 tan y dyddiad cau - 21:00y.h. ar 27 Hydref 2017

6. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

7. Bydd dau feiriniaid allanol sef Steffan Rhys Hughes ac Elin Llwyd. Bydd y beirniaid yn derbyn e-byst holl ymgeiswyr y gystadleuaeth, ac yn dewis deg o'r enwebiadau i ffurfio rhestr fer erbyn 1 Tachwedd 2017. Ni fydd y beirniaid yn cael gwybodaeth am y cystadleuwyr yn ystod y broses hon er tegwch i bob ysgol.

8. Bydd penderfyniad y beirniaid ynghylch y rhestr fer a'r enillydd yn derfynol. Ni roddir unrhyw adborth na beirniadaeth ysgrifenedig.

9. Bydd 10 fideo yn cael eu cynhyrchu o gystadleuwyr y rhestr fer ac yn cael eu dangos ar Prynhawn Da ac yna mewn rhaglenni hanner awr arbennig a ddarlledir yn yr hwyr ar 12 Rhagfyr a 19 Rhagfyr 2017.

10. Bydd y beirniaid yn cyhoeddi'r enillydd ar Prynhawn Da yn fyw ar ddydd Llun 18 Rhagfyr 2017.

11. Bydd yr côr buddugol hefyd yn cael ei glywed ar raglen Heno ar 18 Rhagfyr.

12. Mae hawl gan bob ysgol i gystadlu unwaith.

13. Rhaid i aelodau pob côr fod o oed ysgol gynradd.

14. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei ddarparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a'r telerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant ar restr fer y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u fideo at ddibenion hyrwyddo ar deledu neu gyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook, Twitter, Instagram.

15. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig am gyfansoddwr y gerddoriaeth neu'r geiriau.

16. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

17. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

18. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb â phrawf fod y cynnig wedi cyrraedd.

19. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

20. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw unigolyn, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

21. Ni fydd Tinopolis na S4C yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon. Caiff data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

22. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

23. Trefnir y gystadleuaeth hon gan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?