S4C
Dewisiadau

Cynnwys

S4C a'i Gwylwyr

Mae S4C yn gweithredu o dan Ddeddfau Darlledu 1990 ac 1996 a Deddf Cyfathrebiadau 2003 i ddarparu amrywiaeth o raglenni teledu Cymraeg o ansawdd uchel.

Mae S4C yn ymrwymo i:
  • ddarparu gwasanaethau teledu a gwasanaethau cysylltiol Cymraeg yn rhad ac am ddim;
  • ddarparu gwasanaethau darlledu eraill sy'n cyfoethogi bywyd ein gwylwyr, yng Nghymru a thu hwnt;
  • ofalu fod ein rhaglenni'n cael eu darlledu'n effeithiol ac effeithlon fel bo gwylwyr ym mhob cwr o Gymru a thrwy Brydain yn gallu eu derbyn.
Er mwyn gwireddu hyn, mae S4C yn gaddo:
  • meithrin perthynas agored, agos, ffrwythlon ac atebol gyda'n gwylwyr, fel ein bod yn deall anghenion y gynulleidfa ac yn gallu rhoi ystyriaeth lawn iddi wrth ddarparu gwasanaethau;
  • hyrwyddo ein rhaglenni yn effeithiol fel bo gwylwyr yn cael y budd mwyaf ohonynt;
  • helpu hyrwyddo a chynnal diwydiant darlledu creadigol ac effeithiol yng Nghymru;
  • gweithredu o fewn ein grymoedd a dyletswyddau i sicrhau gwerth gorau ac, o fewn fframwaith yr egwyddor o gadw hyd braich sy'n ganolog i'r berthynas rhwng darlledwyr cyhoeddus a'r Llywodraeth, meithrin perthynas adeiladol gydag Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth Prydain, Senedd Prydain a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trwy gyflawni'r addewidion hyn, mae S4C yn ffyddiog ei bod yn:
  • gwneud cyfraniad bywiog i fywyd ieithyddol, diwylliannol, cymdeithasol, economaidd a chyhoeddus Cymru;
  • hyrwyddo enw da Cymru a darlledu o Gymru ym mhob rhan o Brydain ac yn rhyngwladol.
Nosweithiau Gwylwyr S4C

Mae aelodau'r Awdurdod a swyddogion S4C yn cynnal Nosweithiau Gwylwyr cyhoeddus yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae croeso i wylwyr ddod i'r digwyddiadau hyn i drafod S4C, ein rhaglenni a gwasanaethau. Mae gwylwyr hefyd yn gallu cysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C i fynegi barn.

Y gymuned

Mae S4C yn cynnal digwyddiadau mawr a bach ledled Cymru. Mae nifer o raglenni yn cael eu recordio mewn gwahanol leoliadau ac mae cynulleidfaoedd o wahanol ardaloedd yn elfen hollbwysig o'r rhaglenni hyn.

Mae bywyd gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd cymunedau Cymreig yn cael eu hadlewyrchu yn ddyddiol ar y gwasanaeth newyddion, rhaglenni ffermio a materion cyfoes a'r rhaglenni cylchgrawn dyddiol Prynhawn Da a Heno.

Mae gan S4C gyfrifoldeb i gynrychioli ac i apelio at bawb - pobl o wahanol ddiwylliannau, cenedligrwydd, hil, crefyddau, yr anabl, cyfeiriadedd rhywiol ac o bob oedran. Ein nod yw adlewyrchu hynny yn ein gwasanaeth a'n rhaglenni. Mwy o wybodaeth am ymrwymiad S4C i amrywiaeth

Gwasanaethau Mynediad

Mae'n bwysig i S4C bod ein rhaglenni yn hawdd eu dilyn ac yn ddeniadol i gynulleidfa mor eang â phosibl. Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o raglenni. Mae isdeitlau Cymraeg hefyd ar gael ar nifer o raglenni. Mae rhai rhaglenni yn cael eu dangos gydag arwyddwyr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn. Mae gwasanaeth sain ddisgrifio Cymraeg hefyd ar gael ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall. Mwy o fanylion am wasanaethau mynediad S4C.

Dysgwyr y Gymraeg

Mae S4C yn cynnig gwasanaeth dysgu unigryw ar gyfer dysgwyr y Gymraeg ar s4c.cymru/dysgwyr. Mae uchafbwyntiau rhaglenni, sgriptiau, gweithgareddau a nodiadau cefndir ar gael ar y gwasanaeth.

Datganiad Polisi Rhaglenni

Bob blwyddyn mae S4C yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth Rhaglenni ar ffurf Datganiad Polisi Rhaglenni sydd ar gael ar safle'r Awdurdod. Mae hwn yn cynnwys targedau corfforaethol S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?