S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rhaglenni

Darlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy'n comisiynu rhaglenni yw S4C. Mae'n comisiynu cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud y rhan fwyaf o'i raglenni. Mae ITV Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu i gynhyrchu rhaglenni. Mae BBC Cymru yn darparu tua deg awr yr wythnos o raglenni ar gyfer S4C, gan gynnwys y newyddion a'r sebon dyddiol Pobol y Cwm, wedi'u hariannu o ffi'r drwydded.

Cwmnïau cynhyrchu annibynnol

Ers ei sefydlu ym 1982, mae S4C wedi cydweithio'n agos â'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Gellir cael rhestr o'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yma. Mae nifer o'r cwmnïau yn cael eu cynrychioli gan TAC [Teledwyr Annibynnol Cymru]. Mae S4C yn ymgynghori gyda TAC a'r cwmnïau ar faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant teledu.

Y Broses Gomisiynu

Mae S4C yn gweithredu proses barhaus o ddatblygu a chomisiynu, sy'n cael ei goruchwylio gan y Gyfarwyddiaeth Gomisiynu. Mae'n drefn hyblyg, sy'n ein galluogi i ymateb i anghenion y gynulleidfa a gofynion yr amserlen. Rydym yn barod i dderbyn syniadau gan bob cynhyrchydd all ateb gofynion comisiynu S4C a rydym yn rhoi ymateb sydyn i unrhyw syniad. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan cynhyrchu S4C.

BBC Cymru

Mae BBC Cymru yn darparu tua deg awr yr wythnos o raglenni ar gyfer S4C, gan gynnwys y newyddion a'r ddrama ddyddiol Pobol y Cwm, wedi'u hariannu o ffi'r drwydded.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?