S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Darparu gwybodaeth i Ofcom

Mae S4C yn darparu cryn dipyn o wybodaeth i Ofcom bob blwyddyn mewn perthynas â pherfformiad gwasanaeth teledu S4C.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ariannol, gwybodaeth feintiol yn ymwneud â pherfformiad gwasanaeth teledu S4C a gwybodaeth yn ymwneud â chydymffurfio â chwotâu perthnasol Ofcom.

  • Mae S4C yn darparu'r wybodaeth ganlynol i Ofcom:
  • Gwybodaeth am incwm a gwariant blynyddol;
  • Gwybodaeth ariannol fisol a blynyddol yn ymwneud â gwerthiannau hysbysebion teledu ar S4C;
  • Gwybodaeth fanwl am wariant fesul genre rhaglenni o fewn gwasanaeth teledu S4C;
  • Ffigurau gwylio manwl ar gyfer adroddiadau blynyddol Ofcom ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a Gwledydd y Cyfryngau; a
  • Gwybodaeth yn ymwneud â chyflawni cwotâu rhaglenni a gwasanaethau mynediad o fewn gwasanaeth teledu S4C.

Yn ogystal, mae S4C yn talu ffî rheoleiddio i Ofcom bob blwyddyn.

Adolygiad Polisi Rhaglenni 2018/2019

Datganiad Polisi Rhaglenni 2019/2020

Adolygiad Polisi Rhaglenni i Ofcom: Edrych yn ôl: 2020-21

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?