S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Owen Evans

Fe gafodd Owen Evans ei benodi'n Brif Weithredwr S4C ym mis Hydref 2017.

Fe gafodd ei addysg yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyn ymuno ag S4C roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Rhwng 2008 a 2010 roedd yn Gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru ac am 10 mlynedd cyn hynny bu'n gweithio i BT gan gynnwys cyfnod fel aelod o dîm Prydeinig BT ar ddatblygu eu strategaeth band-eang.

Roedd yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2005 a 2010.

Ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol elusen Marie Curie yng Nghymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?