S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Gofynion rheoleiddio penodol

Mae'r gofynion ar S4C yn cynnwys sicrhau bod gwasanaeth teledu

S4C yn cydymffurfio â gofynion:

  • Cod Darlledu Ofcom;
  • y Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu;
  • y Cod ar Amserlennu Hysbysebion Teledu;
  • y Cod Trawshyrwyddo;
  • y Cod Ymarfer ar gyfer Canllawiau Rhaglenni Electronig;
  • y Cod ar gyfer Digwyddiadau Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig eraill; a
  • rheolau Ofcom ar Ddarllediadau Pleidiau Gwleidyddol a Refferendwm.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i S4C gydymffurfio ag ystod o ofynion, gan gynnwys:

  • Cydymffurfio â'r darpariaethau statudol yn ymwneud â darparu gwybodaeth gan S4C i Ofcom;
  • Cyflwyno Datganiad o Bolisi Rhaglenni blynyddol, ac adolygiad blynyddol o'r polisi i Ofcom;
  • Cydymffurfio â chwotâu perthnasol a bennwyd gan Ofcom mewn perthynas â Rhaglenni Gwreiddiol, rhaglenni Newyddion a Materion Cyfoes a gwasanaethau mynediad (fel is-deitlau, sain ddisgrifio ac arwyddo);
  • Cyflwyno Cod Ymarfer drafft S4C ar gyfer Comisiynu Rhaglenni i Ofcom ei gymeradwyo;
  • Hyrwyddo swyddogaethau Ofcom mewn perthynas â gwasanaethau teledu S4C, gan gynnwys gweithdrefnau a sefydlwyd gan Ofcom neu S4C ar gyfer ymdrin â chwynion a datrys cwynion ynghylch gwasanaeth teledu S4C;
  • Cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddwyd gan Ofcom os yw S4C wedi methu cydymffurfio â'i ofynion rheoleiddio; a
  • Thalu cosbau ariannol i Ofcom am dorri gofynion Cod Darlledu Ofcom a gofynion cwotau eraill hyd at y swm o £250,000.
  • Mae'n ofynnol ar wasanaethau ar-alw S4C i gydymffurfio gydag Adran 368Q o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 ac (i'r graddau eu bod yn berthnasol i S4C), rheolau Ofcom ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alw.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth fanwl yn ymwneud â'r gofynion hyn yn Atodlen 12 Deddf Cyfathrebiadau 2003 ar y wefan legislation.gov.uk.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?