Mae'n bwysig i S4C bod ein rhaglenni yn hawdd eu dilyn ac yn ddeniadol i gymaint o'r gynulleidfa ag y bo modd.
Er mwyn sicrhau hyn, mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o'n rhaglenni.
Hefyd mae isdeitlau Cymraeg ar gael ar nifer fawr o raglenni.
Mae rhai rhaglenni yn cael eu dangos gydag arwyddwyr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn.
Ar gyfer pobol ddall a rhannol ddall, mae gwasanaeth sain ddisgrifio Cymraeg ar gael ar rhai rhaglenni.
Mae S4C wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau mynediad a chymorth mewn perthynas â'i rhaglenni a'i chynnwys.
Mae'n bosib cysylltu â'n gwasanaeth Gwifren Gwylwyr am fwy o fanylion neu am gymorth i ddod o hyd i'r gwasanaethau hyn.
Bydd S4C yn parhau i weithio gyda sefydliadau arbenigol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig y cymorth a'r mynediad gorau posib.