S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Alwyn Humphreys

Alwyn Humphreys

Ganwyd Alwyn Humphreys ym Modffordd, Sir Fôn, ac mae'n teimlo'n hynod ffodus o gael magwraeth fel rhan o gymuned pentref bychan lle roedd digwyddiadau'r capel yn ganolog i fywyd y pentref.

Yn dilyn graddio gydag anrhydedd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Hull a Choleg Trinity Llundain, aeth yn ddarlithydd cerdd yn Lerpwl, cyn ymuno gyda'r BBC fel cynhyrchydd. Yn raddol, fe drodd i gyflwyno ar y radio a'r teledu, gan gynnwys darllediadau o'n Eisteddfodau Cenedlaethol.

Roedd Alwyn yn gyfarwyddwr Cerdd ar gôr Moriston Orpheus am 25 mlynedd, gan deithio'r byd er mwyn hyrwyddo sain canu corawl meibion Cymru. Roedd uchafbwyntiau yn cynnwys ymddangos yn y Sydney Opera House a Carnegie Hall, yn ogystal â'g ennill y wobr am y Recordiad Corawl Gorau ar dri achlysur. Yn 2001, gwnaed ef yn MBE ar restr anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ac yn 2006 rhoddwyd gradd Doethur gan Brifysgol Hull iddo. Yn yr un flwyddyn rhyddhawyd ei hunangofiant a oedd ar restr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn.

Mae Alwyn yn credu'n gryf ym ngrym cerddoriaeth fel cyfrwng crefyddol, ac yn falch iawn o fod yn rhan o griw Dechrau Canu Dechrau Canmol.


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?