S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rhys Meirion

Yn wreiddiol o Borthmadog, Gwynedd, fe ddechreuodd Rhys Meirion ei yrfa fel Prifathro yn Ysgol Gynradd Pentrecelyn, Rhuthun, cyn dechrau astudio i fod yn ganwr proffesiynol. Yn 1997 fe ddechreuodd gwrs Opera yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall yn Llundain cyn ymuno gyda'r English National Opera yn 1999.

Mae Rhys wedi canu ar draws y byd mewn gwledydd megis Awstralia, Yr Almaen, Yr Ariannin a Tsieina, ac wedi rhyddhau nifer fawr o gryno-ddisgiau gan gynnwys Benedictus gyda Bryn Terfel a gafodd ei enwebu yn 2006 ar gyfer 'Classical Brit Award'.

Mae Rhys wedi ymuno gyda chriw Dechrau Canu Dechrau Canmol ers 2011. Ers hynny mae wedi dod yn wyneb poblogaidd iawn ymysg dilynwyr y rhaglen. Yn 2014 cafodd ei hunangofiant ei gyhoeddi, mae bellach yn lysgenad ar gyfer 'Ambiwlans Cymru', ac mae'n canu yn aml gyda 'Tri Tenor Cymru'.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?