S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rhodri Darcy

Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Rhodri Darcy yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol. Ond yn fwy na gweithio o flaen y camera, roedd hefyd yn cynhyrchu Dechrau Canu Dechrau Canmol am flynyddoedd.

Fe astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn y gorffennol mae wedi cyflwyno ar raglen Heno a Wedi 3, yn ogystal â Radio lleol Sir Gâr, Penfro a Cheredigion. Mae cerddoriaeth yn un o'i ddiddordebau mawr, ac roedd yn rhan o fand Manna gydag Aled Myrddin lle roedd yn leisydd, gitarydd a chyfansoddwr. Yn fwy diweddar roedd yn rhan o fand Sound of Wales.

Mae bellach yn byw yn Rhydaman, ac wedi derbyn swydd fel Swyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu gyda Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Abertawe.


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?