S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Y Cadeirydd yn ymuno â Rygbi'r Byd ExCo

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies wedi ei ethol i Bwyllgor Gwaith Rygbi'r Byd.

Mae cyn brif weithredwr Dreigiau Casnewydd Gwent a oedd hefydd yn faswr rhyngwladol o fri yn ystod y 1970au a'r 80au, yn disodli Oregan Hoskins o Dde Affrica sy'n gadael y swydd wedi 10 mlynedd gyda'r corff sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau.

Bydd Davies yn ymuno ag aelodau eraill y Pwyllgor; cadeirydd Rygbi'r Byd Bill Beaumont, yr is-gadeirydd Augustin Pichot a'r prif weithredwr Brett Gosper. Mae hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ffrainc, yr Alban, Awstralia, Seland Newydd, Iwerddon a rygbi Gogledd America yn ogystal â dau aelod annibynnol

Ymunodd Davies â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru ar 19eg Hydref 2014 fel cynrychiolydd cenedlaethol i ddechrau cyn cael ei ethol yn Gadeirydd ar 21ain Hydref yr un flwyddyn.

Mae hefyd yn gadeirydd Bwrdd Stadiwm y Mileniwm plc, yn aelod o Gyngor Rygbi'r Byd, Pwyllgor y Chwe Gwlad, Llewod Prydain ac Iwerddon a'r EPCR.

"Mae'n fraint gallu cynrychioli Rygbi Cymru a bydd y penodiad hwn i Bwyllgor Gwaith Rygbi'r Byd yn golygu bod gennym lais yn yr holl benderfyniadau am y gêm fyd-eang," meddai Davies, a enillodd 21 o gapiau dros Gymru ac a fu hefyd ar daith gyda'r Llewod..

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Rygbi'r Byd wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan Rygbi'r Byd yn Japan yn 2019 a chymeryd camau pellach i ddatblygu'r gêm fyd-eang."

Mae Davies hefyd yn cadeirio Panel Penodiadau Grŵp a Thaliadau Undeb Rygbi Cymru ac mae'n aelod o'r Pwyllgor Cyllid.

Mae wedi bod yn uwch swyddog gweithredol gyda CBI Cymru, BBC Cymru, Caerdydd, S4C, Cyngor Chwaraeon Cymru, Y Post Brenhinol ac Awdurdod Datblygu Cymru - lle bu'n bennaeth ar eu swyddfa yn Sydney, Awstralia - ac mae'n gyn Ddeon y Gyfadran Carnegie ym Mhrifysgol Fetropolitan Leeds.

Croesawodd Rygbi'r Byd Georgia, Romania ac UDA yn swyddogol ar ei Chyngor ehangach mewn cyfarfod ganol tymor yn Llundain yr wythnos diwethaf.

Ymddangosodd cynrychiolwyr ychwanegol o'r Ariannin a'r Eidal am y tro cyntaf yn y cyfarfod - y cyntaf i gynnwys hawliau pleidleisio estynedig ar gyfer pob un o'r chwe chymdeithas ranbarthol.

"Rydym wrth ein bodd yn croesawu Georgia, Romania a UDA i'r Cyngor am y tro cyntaf. Mae'r rhain yn undebau sydd wedi cyfrannu cymaint i'r gêm ac maent yn gwneud camau enfawr ar ac oddi ar y cae. Gwn y byddant yn gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth i ni dyfu'r gamp gyda'i gilydd.

"Mae eu cynnwys yn dangos bod y llwybr datblygu yn ei le ac mae'r drws ar agor i undebau eraill sy'n awyddus i gael sedd ar y Cyngor.

"Mae Rygbi'r Byd wedi ymrwymo i dwf cynaliadwy y gamp yn erbyn cefndir o dryloywder, cywirdeb a llywodraethu cryf, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n hundebau er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl gefnogaeth angenrheidiol er mwyn cyflawni a chynnal y meini prawf angenrheidiol i symud ymlaen . "

Bydd Pwyllgor Enwebiadau Rygbi'r Byd yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr Cynghorau ychwanegol yn ei gyfarfod blynyddol ym mis Mai 2017.

Mae Cyngor Rygbi'r Byd hefyd wedi cymeradwyo hawliau pleidleisio estynedig ar gyfer naw o undebau yn unol â diwygio llywodraethu eang a hanesyddol a gyhoeddwyd y llynedd. Cafodd yr undebau hawl pleidleisio ychwanegol (heb unrhyw gynrychiolydd ychwanegol) yn dilyn adolygiad llawn o geisiadau yn erbyn meini prawf clir a nodwyd yn Is-Ddeddf 9.1 (f) gan y Pwyllgor Enwebiadau (gallwch ddarllen y meini prawf yma).

Yr undebau fydd yn derbyn pleidlais ychwanegol yw Awstralia, Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal, Seland Newydd, yr Alban, De Affrica a Chymru.

Erbyn hyn mae cyfanswm o 46 pleidlais ar y Cyngor gyda phob un o'r chwe chymdeithas ranbarthol yn derbyn dau yn ychwanegol at y dyraniad undeb unigol.

Bydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gais yr Ariannin o ran cwrdd â'r meini prawf angenrheidiol cyn y cyfarfod blynyddol 2017.

Cymeradwyodd y Cyngor argymhelliad y Pwyllgor Enwebiadau i benodi Emilie Bydwell a Wang Shao-Ing i Bwyllgor Ymgynghorol y Merched. Bydd cynrychiolydd ychwanegol o Dde America yn cael ei gadarnhau maes o law.

Cadarnhaodd y Cyngor benderfyniad y Pwyllgor Gwaith i atal aelodaeth Kazakhstan o Rygbi'r Byd ar unwaith oherwydd materion llywodraethu parhaol.

Talodd y cyngor deyrnged i'r Eidalwr, Giancarlo Dondi, a oedd yn mynychu ei gyfarfod diwethaf o'r Cyngor ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth nodedig i'r gêm yn yr Eidal a gweddill y byd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?