S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Chwedlau

Dyw chwedl ddim yn chwedl heb ei rhannu

Dan faner Chwedlau, ym mis Tachwedd, bydd S4C yn dathlu'r traddodiad o ddweud a rhannu stori.

Dan faner Chwedlau, ym mis Tachwedd, bydd S4C yn dathlu'r traddodiad o ddweud a rhannu stori.

Yn cyd-fynd â'r Flwyddyn Chwedlau, sy'n cael ei hyrwyddo gan Croeso Cymru eleni, bydd amserlen y mis yn cynnwys casgliad o raglenni sy'n gymysgedd o'r hynafol a'r cyfoes.

Mae prosiect Chwedloni yn gosod straeon pobl yng nghanol y dathliadau, yn gymysg gyda'r rhaglenni sy'n dathlu straeon hynafol a phobl sydd yn haeddu'r teitl 'chwedlonol' ei hunain. Byddwn yn dathlu cymeriadau cofiadwy Pobol y Cwm, brenin y maes rygbi, a hanesion am gŵn dewr sydd o bosib yn haeddu teitl 'y Gelert go iawn'! Ynghyd a dehongliadau trawiadol a chyfoes o rai o'n chwedlau traddodiadol; Rhys a Meinir, Gelert a phedair cainc y Mabinogi drwy lygaid cymeriadau Stwnsh.

Mi fydd yn fis cyfan o ddathliadau sy'n dangos fod y traddodiad llafar yn fyw o hyd. Wedi'r cwbl, dyw chwedl ddim yn chwedl heb ei rhannu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?