S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Chwedlau

Rhys a Meinir

Ffilm ddogfen gerddorol sy'n ffrwyth dychymyg y cerddor Cian Ciarán - yn seiliedig ar chwedl Rhys a Meinir, chwedl garu fwyaf rhamantus a thrasig yr iaith Gymraeg. Drwy gyfuno cerddoriaeth glasurol, barddoniaeth, animeiddio a ffilm archif, dyma gynnig golwg newydd a chyffrous ar y chwedl. Ym mis Tachwedd 2016, cynhaliwyd y première byd eang o Rhys a Meinir - sef cyfansoddiad cerddorfaol cyntaf Cian, ac yn perfformio roedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Drwy ddefnyddio recordiad o'r perfformiad mae'r ffilm yn dogfennu'r paratoadau a rhannau o'r perfformiad, ac yn archwilio'r chwedl a hanes Nant Gwrtheyrn. Mae'r bardd Gruffudd Antur wedi ysgrifennu dilyniant ysgubol o englynion yn arbennig i'r ffilm a cheir perfformiad iasol o'r englynion gan yr actor Rhys Ifans.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?