Cymorth

Byw gydag anabledd

Mae yna lawer o fudiadau yng Nghymru sy'n ceisio sicrhau fod pobl sy'n byw gydag anabledd yn cael chwarae teg i fyw bywydau llawn ac mor annibynnol â phosib.

  • Anabledd Cymru

    Gwybodaeth, sylwadau a chyfleodd i ymgyrchu dros cydraddoldeb i bobl anabl. Mae Anabledd Cymru yn fudiad cenedlaethol sy'n dod a mudiadau eraill ynghyd ac yn ceisio sicrhau hawliau, cydraddoldeb ac annibynniaeth i bobl anabl.

    www.disabilitywales.org

  • AbilityNet

    Help, gwybodaeth a chefnogaeth i ddefnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg os yn byw gydag anabledd.

    www.abilitynet.org.uk

  • Scope Cymru

    Un o'r prif elusennau sy'n ceisio gwneud bywyd yn haws i bobl sy'n byw gyda anabledd a'u teuluoedd.www.scope.org.uk