S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Stelcian

Gellir stelcio gael ei ystyried fel cyfres o weithredoedd bwriadol o ddilyn, gwylio ac aflonyddu ar berson arall. Mae'r hyn fel arfer yn digwydd dros gyfnod o amser, ac yn achosi braw i'r person sy'n cael ei aflonyddu fel arfer.

Manylion o'r cefnogaeth sydd ar gael ar y tudalen yma.

  • Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian

    Help a chefnogaeth os ydych chi'n credu fod rhywun yn eich stelcian.

    0808 802 0300

    www.stalkinghelpline.org

  • Action Against Stalking

    Gwybodaeth a chefnogaeth defnyddiol os ydych yn byw gyda hyn.

    0800 820 2427

    www.actionagainststalking.org

  • Cymorth i Ferched Cymru

    Cefnogaeth a help ymarferol ar draws Gymru i ferched a phlant sy'n dioddef trais yn y cartref. Dros dauddeg pump o grwpiau lleol Cymorth i Ferched ar draws y wlad. Defnyddiwch llinell Byw Heb Ofn i gysylltu.

    0808 80 10 800

    www.welshwomensaid.org.uk

  • Byw heb ofn

    Gwybodaeth a chyngor dwyieithog, 24 awr y dydd. Gall helpu drwy gefnogi pobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, yn ogystal a chyfeirio eraill i wasanaethau cynghori, cefnogaeth frys, mannau diogel a gwybodaeth am eu hawliau a'u hopsiynau.

    0808 80 10 800

    livefearfree.gov.wales

  • Victim Support

    Mae'r elusen yma yn helpu pobl sydd wedi dioddef oherwydd troseddu eraill, ac mae ganddynt dimau lleol i'ch helpu os mae hynny'n wir i chi.

    08 08 16 89 111

    www.victimsupport.org.uk

  • Crimestoppers

    Cysylltwch a'r llinell yma'n gyfrinachol am unrhyw droseddu yn eich ardal.

    0800 555 111

    crimestoppers-uk.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?