S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Defnydd alcohol a chyffuriau

Gall dibyniaeth dod mewn sawl ffurf. Y rhai mwyaf cyffredin yn ein cymdeithas, y rhai sy'n gallu achosi'r mwyaf o niwed, yw'r rhai sy'n golygu'r defnydd o alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu gyfreithlon, neu ysmygu. Ceir wybodaeth yma a all helpu pobl sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y materion yma, yn cynnwys teuluoedd a gofalwyr.

  • DAN 247

    Cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth ynglýn â chyffuriau ac alcohol, cyfreithlon neu anghyfreithlon. Gwasanaeth dwyieithog.

    Rhadffon: 0808 808 2234

    www.dan247.org.uk

  • ADFAM

    Mae Adfam yn help i deuluoedd a ffrindiau pobl sy'n defnyddio cyffuriau. Maent yn cynnig gwybodaeth a manylion am y cymorth sydd ar gael yn lleol. Cymorth hefyd drwy gynnig cwnsela i'r sawl sy'n pryderu am ddefnydd eu hunain o gyffuriau, pryderon teuluol neu unrhyw agwedd arall o gymryd cyffuriau.

    www.adfam.org.uk

  • Barod

    Gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ar draws De Ddwyrain a De Gorllewin Cymru, yn cynnwys Gwasnaethau Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS), Cwm Taf, a Gwasnaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (D-Das).

    https://barod.cymru

  • Newid

    Gwasanaethau alcohol a chyffuriau ar draws Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.

    0300 7904044

    www.newidcymru.co.uk

  • Kaleidoscope

    Elusen sy'n rhedeg sawl gwasasanaeth alcohol a chyffuriau ar draws De Cymru.

    01633 811950

    https://kaleidoscope68.org

  • Adferiad Recovery

    Mae Adferiad Recovery yn cyfuno sgiliau ac arbenigedd pedair elusen - Adferiad Recovery, CAIS, Hafal a WCADA - sydd wedi uno er mwyn darparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, a'r rhai hynny sydd ag anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd.

    www.adferiad.org.uk

  • DrugWise

    Gwybodaeth a thystiolaeth o safon am gyffuriau a'u heffeithiau. Rhain oedd DrugScope ers talwm.

    www.drugwise.org.uk

  • Frank

    Gwybodaeth clir a chefnogaeth gyda cyffuriau a phroblemau dibynniaeth.

    www.talktofrank.com

  • The Mix

    Mae The Mix yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog i unrhyw un o dan 25. Mae'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i iechyd rhywiol, neu beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.

    0808 808 4994

    www.themix.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?