S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Colled a galar

Gall colli rhywun agos fod yn brofiad ysgytwol, a'n gadael gyda teimladau o dristwch, anobaith, hyd yn oed yn teimlo'n flin. Mae manylion y mudiadau a'r llinellau cymorth canlynol i'ch helpu os ydych chi neu rhywun agos i chi wedi colli rhywun ac angen help, cefnogaeth neu clust i wrando.

  • The Compassionate Friends

    Mae'r Compassionate Friends yn cynnig llinell gymorth a gwefan gyda fforymau i helpu rhieni sydd wedi colli plentyn. Ceir rhagor o wybodaeth i frodyr neu chwiorydd sydd wedi colli rhywun ar wefan arall gysylltiedig.

    0345 123 2304

    www.tcf.org.uk

  • Cruse Bereavement Care

    Mae Cruse Cymru yn cynnig gwasanaethau cynghori, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae deg grŵp ar draws Cymru a chynigir cyngor arbenigol ar brofedigaeth i blant a chyngor dros y ffôn gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi a'u dethol yn ofalus. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i gael hyd i gymorth lleol.

    0808 808 1677

    Cyngor arbenigol oherwydd COVID-19

  • Dying Matters

    Elusen sy'n ceisio dechrau sgwrs am marwolaeth a marw, gan gynnwys cyngor i bobl sydd wedi colli rhywun yn sydyn, efallai drwy drais neu niwed.

    www.dyingmatters.org

  • Rosie Crane Trust

    Cyngor a chymorth i rieni sydd wedi colli plentyn.

    01460 55120 (24 awr)

    www.rosiecranetrust.org

  • Counselling Directory

    Ffordd rhwydd o gael hyd i wasanaethau cwnsela a seicotherapi proffesiynol yn eich ardal.

    www.counselling-directory.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?