S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Trais yn y cartref

Gall camdriniaeth gymeryd sawl ffurf, ond pan mae'n troi'n rhywbeth corfforol gan rhywun agos, gall fod yn sefyllfa beryg iawn. Gall ddigwydd i ddynion neu merched, er mae'n tueddu fod yn fwy cyffredin i ferched ddioddef oherwydd hyn. Mae lloches a help i gael gan rhai o'r cysylltiadau yma.

  • Byw heb ofn

    Gwybodaeth a chyngor dwyieithog, 24 awr y dydd. Gall helpu drwy gefnogi pobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, yn ogystal a chyfeirio eraill i wasanaethau cynghori, cefnogaeth frys, mannau diogel a gwybodaeth am eu hawliau a'u hopsiynau.

    0808 80 10 800

    livefearfree.gov.wales

  • Cymorth i Ferched Cymru

    Cefnogaeth a help ymarferol ar draws Gymru i ferched a phlant sy'n dioddef trais yn y cartref. Dros dauddeg pump o grwpiau lleol Cymorth i Ferched ar draws y wlad. Defnyddiwch llinell Byw Heb Ofn i gysylltu.

    0808 80 10 800

    www.welshwomensaid.org.uk

  • Refuge

    Cyngor a chymorth i ferched mewn perthynas difrïol.

    0808 2000 247

    www.refuge.org.uk

  • DASU - Uned Diogelwch Trais Teuluol

    Mae DASU yn darparu cymorth a chefnogaeth broffesiynol i bobl sy'n profi cam-drin domestig ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

    Sir y Fflint: 01244 830436

    Rhyl: 01745 337104

    Bae Colwyn: 01492 534705

    Dinbych: 01745 337104

    Wrecsam: 01978 310203

    dasunorthwales.co.uk

  • Llinell Gefnogaeth i Ddynion

    Cyngor a chymorth i ddynion mewn perthynas difrïol.

    0808 801 0327

    www.mensadviceline.org.uk

  • Prosiect DYN

    Mae prosiect Dyn Diogelach Cymru yn rhoi cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, dynion deurywiol a thrawsrywiol sy'n dioddef o gam-drin domestig gan eu partner.

    0808 801 0321

    www.dynwales.org

  • Cymru Ddiogelach

    Mudiad sy'n ceisio gwneud i bobl deimlo'n ddiogel yn eu bywyd bob dydd.

    www.saferwales.com

  • Relate Cymru

    Gwasanaethau cwnsela amrywiol, yn cynnwys cwnsela i gyplau a theuluoedd, therapi rhyw.

    www.relate.org.uk/cymru

    0300 003 2340

  • Crimestoppers

    Cysylltwch a'r llinell yma'n gyfrinachol am unrhyw droseddu yn eich ardal.

    0800 555 111

    crimestoppers-uk.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?