S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Iselder

Mae sawl gwahanol fath o iselder, ac mae yna raddfeydd o ba mor ddifrifol mae'r salwch clinigol yma'n gallu effeithio'ch bywyd.

Rhaid gwahaniaethu hefyd rhwng teimlo'n isel yr ysbryd weithiau - sy'n hollol naturiol - a chael cyfnod o iselder sydd ddim yn gwella, sy'n cael ei gyfri'n salwch. Cofiwch mai'ch doctor yw un o'r bobl gyntaf allwch weld os ydych chi'n dioddef cyfnod fel hyn.

  • YoungMinds

    Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu gyda'ch bywyd emosiynol a'ch iechyd meddwl. Hefyd, help i geisio deall os yn rhiant neu'n ofalwr i berson ifanc.

    www.youngminds.org.uk

  • CALM

    Os ydych yn ddyn ifanc, gellir cael help a chyngor os ydych chi'n teimlo'n isel drwy fynd i wefan C.A.L.M. neu drwy gael gair dros y ffôn.

    www.thecalmzone.net

  • Sefydliad DPJ

    Cwnsela a hyfforddiant i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr a phobl sy'n gweithio mewn cymunedau gwledig.

    0800 587 4262 neu tecstiwch 07860 048799

    www.thedpjfoundation.co.uk

  • Amser i Newid Cymru

    Partneriaeth o dair elusen iechyd meddwl mwyaf blaenllaw Cymru ac ymgyrch i herio stigma o gwmpas iechyd meddwl. Mae'r wefan gyda gwybodaeth defnyddiol a diddorol ar sut i wneud hyn a chysylltiadau i Hafal, Gofal a Mind Cymru.

    www.timetochangewales.org.uk

  • Hafal

    Un o brif elusennau Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr. Cefnogaeth a help o bob math, yn cynnwys grwpiau lleol ar draws Cymru.

    www.hafal.org

  • Gofal

    Elusen sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i bobl â phroblemau iechyd meddwl, yn cefnogi eu hannibynniaeth, gwellhad, iechyd a lles.

    www.gofalcymru.org.uk

  • Mind Cymru

    Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau, yn cynnwys yng nghyfnod COVID-19.

    www.mind.org.uk

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

  • Y Samariaid

    Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos. Mae hefyd gwasanaeth Gymraeg ar gael rhwng 7pm-11pm bob nos, drwy ffonio 0808 164 0123.

    116 123

    www.samaritans.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?