S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Canser y gaill

Mae canser y gaill yn ganser sy'n effeithio dynion ifanc neu ganol oed gan fwyaf, ond os yw'n cael ei ddarganfod yn ddigon cynnar, mae 'na bob posibilrwydd gwella. Mae'n bwysig iawn fod dynion yn archwilio eu hunain yn rheolaidd ac yn mynd i weld y doctor os ydynt yn darganfod unrhyw lwmp anarferol. Mae'r wybodaeth isod yn rhoi mwy o fanylion am y cyflwr a chyngor ar sut i gadw'ch hun yn saff .

  • Orchid

    Llinell gymorth a gwefan cynhwysfawr gan elusen canserau sy'n effeithio dynion.

    0808 802 0010

    orchid-cancer.org.uk

  • Testicular Cancer UK

    Gwefan sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn cynnig cefnogaeth cynhwysfawr gyda canser y gaill.

    www.testicularcanceruk.com

  • Macmillan Cancer Support

    Mae Macmillan Cancer Support yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.

  • CancerHelp

    Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.

    www.cancerresearchuk.org/about-cancer

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?