S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Hunaniaeth rhyw

Help a chefnogaeth gyda materion hunaniaeth rhyw.

  • GIRES

    Mae GIRES yn elusen sy'n ceisio helpu a chefnogi unigolion trawsrywiol a'r sawl sy'n anghydffurfio a chategorïau rhyw, gan gynnwys y rhai sy'n uniaethu a bod heb hunaniaeth deuaidd neu'n ddi- rhyw, yn ogystal â'u teuluoedd.

    www.gires.org.uk

  • Stonewall Cymru

    Mae Stonewall Cymru'n fudiad sy'n edrych ar ôl a hybu hawliau lesbiaid , hoywon a phobl ddeurywiol yng Nghymru, ac maent yn gallu rhoi cyngor ar bynciau fel partneriaeth sifil a gwahaniaethu anffafriol. Ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth.

    www.stonewallcymru.org.uk

  • Mermaids

    Grŵp cymorth yw Mermaids a gafodd ei ffurfio gan rieni a ddaeth ynghyd oherwydd hunaniaeth rhywiol eu plant. Maent yn ceisio helpu plant a'u teuluoedd drwy'r anawsterau a thrawma sy'n gallu codi oherwydd y materion hyn.

    www.mermaidsuk.org.uk

  • Switsfwrdd LGBT

    Mae Switsfwrdd LGBT yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaeth arallgyfeirio ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol a thrawsrywiol – ag i unrhyw un sy'n ystyried eu rhywioldeb a / neu hunaniaeth rhywiol eu hunain.

    www.switchboard.lgbt

  • Rhwydwaith Trawsrywiol UNIQUE

    Mae Rhwydwaith Trawsrywiol UNIQUE yn grŵp gwirfoddol sy'n cefnogi pobl drawsrywiol yn y Gogledd a Gorllewin Swydd Gaer.

    www.uniquetg.org.uk

  • Viva LGBT Youth

    Grwp ieuenctid a chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy'n uniaethu fel lesbiaidd, hoyw , deurywiol , trawsrywiol - neu rhai nad ydynt yn siwr eto - yn ardal Rhyl.

    www.facebook.com/lgbtviva

  • TSMU Cardiff

    Mae T * MSU ( Trans + Social Meet Up ) yn grŵp cymdeithasol cefnogol i bawb sy'n uniaethu fel Rhyw Amrywiol / Trawsrywiol, eu teuluoedd , ffrindiaua chefnogwyr yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.

    www.facebook.com/groups/tsmucardiff

  • Tawe Butterflies

    Mae Tawe Butterflies yn grŵp gyda aelodaeth am ddim , gyda dros 400 o aelodau, sy'n cefnogi trawsrywioldeb yn ardal Aberatwe.

    www.tawebutterflies.co.uk

  • Snowdrops

    Mae Snowdrops yn grŵp cefnogi hunangymorth sy'n gwasanaethu pobl Trawsrywiol ( M-F , F-M a rhyw niwtral) , eu partneriaid , teuluoedd a chyfeillion yn Sir Benfro a Gorllewin Cymru.

    snowdropspembs.wordpress.com

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?